Yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr 2020 awdurdododd Cabinet y Cyngor swyddogion i ymgynghori ar gynigion i:
· ymgynghori ar gynigion i gynyddu capasiti Ysgol Mynydd Bychan o tua 0.9DM (192 o leoedd) i 1.5DM (hyd at 315 o ddisgyblion) o fis Medi 2022.
·cynnal ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid i ffurfio cynigion a fyddai'n cael eu datblygu i ddarparu cydbwysedd priodol o leoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg i wasanaethu'r ardal.
Nodwyd y bydd yr ymgynghoriad ar y Trefniadau Derbyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 yn cynnwys cynnig lleihau nifer derbyn Ysgol Gynradd Allensbank o 45 i 30 o leoedd.
Nodwyd y byddai swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol i geisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r barn a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ynghyd ag argymhellion ar sut ddylid bwrw ymlaen.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 14/05/2021
Angen Penderfyniad: 17 Meh 2021 Yn ôl Cabinet
Scrutiny Consideration: Amber/Ambr