English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y mater

Ysgolion yr 21ain Ganrif, Band B: Ehangu ac Ailddatblygu Ysgol Uwchradd CathaysYsgolion yr 21ain Ganrif, Band B: Ehangu ac Ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cathays

Yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr 2020 awdurdododd Cabinet y Cyngor swyddogion i ymgynghori ar gynigion i:

 

·         Ehangu Ysgol Uwchradd Cathays o 1,072 o leoedd (5.5 Dosbarth Mynediad gyda 247 lle yn y chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 Dosbarth Mynediad gyda 250 lle yn y chweched dosbarth) o fis Medi 2023;

·         Codi adeiladau newydd i Ysgol Uwchradd Cathays yn lle’r hen rai ar safle Canolfan y Maendy ger Heol y Goron a Heol y Gogledd;

·         Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) bresennol i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 16 lle i 50 lle mewn adeilad pwrpasol yn yr adeiladau ysgol newydd;

·         Uwchraddio cyfleusterau cymunedol yn Cathays a Gabalfa drwy sicrhau bod cyfleusterau ysgol llawer gwell ar gael i'w defnyddio ar y cyd â'r gymuned leol ehangach;

·         Darparu lle i'r gymuned leol barhau i gael mynediad i fannau agored oddi ar y ffordd at ddefnydd hamdden anffurfiol. 

 

Nodwyd y byddai swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol i geisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. 

  

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r farn a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ynghyd ag argymhellion ar sut y dylid bwrw ymlaen.

 

           

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 14/05/2021

Angen Penderfyniad: 17 Meh 2021 Yn ôl Cabinet

Scrutiny Consideration: Amber/Ambr

Eitemau Agenda

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.