English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y mater

Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (CCDC) Mabwysiadu a Chynnal a Chadw Nodweddion Draenio Cynaliadwy (SDCau) yn y Dyfodol

Mae Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 yn ei gwneud yn orfodol ofynnol i'r Awdurdod Unedol, wrth weithredu yn rhinwedd ei swydd fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, fabwysiadu systemau draenio a adeiladwyd yn unol â Safonau Draenio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a chynigion cymeradwy.

 

Ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth ym mis Ionawr 2019, y ddau brif opsiwn ar gyfer cynnal a chadw Systemau Datblygu Cynaliadwy ar gyfer datblygiadau cymwys yw:

 

  • Cwmni Rheoli a fydd yn cynnal y nodweddion SDCau. Telir yr arian yn uniongyrchol i'r cwmni rheoli drwy dâl cynnal a chadw parhaus ar bob perchennog eiddo.

 

  • Telir Swm Cynnal a Chadw Gohiriedig gan y datblygwr i'r Cyngor er mwyn caniatáu i'r Cyngor gynnal a chadw nodweddion SDCau yn y dyfodol.

 

Ystyrir mai ysbryd y ddeddfwriaeth yw sicrhau bod un corff statudol yn gyfrifol am gynnal ac arolygu nodweddion Systemau Draenio Cynaliadwy. Felly, Cyngor Caerdydd fel y CCDC yw'r corff statudol sy'n gyfrifol am sicrhau bod y system ddraenio yn cael ei chynnal a'i harolygu.

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 19/02/2021

Angen Penderfyniad: 18 Tach 2021 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd

Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd

Scrutiny Consideration: Amber/Ambr

Eitemau Agenda

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.