Cynhaliwyd ymarfer caffael cychwynnol yn 2020 a phrynwyd sawl cerbyd i gymryd lle nifer o'r hen gerbydau casglu gwastraff a gaffaelwyd yn wreiddiol yn 2013.
Dilysodd yr ymarfer brisiau'r farchnad a chadarnhau mai'r dull gwerth gorau yw parhau i brynu cerbydau i gymryd lle’r fflyd gerbydau bresennol a llogi rhagor o gerbydau dros dro y mae eu hangen dros gyfnod o bedwar diwrnod gwaith.
Mae angen rhaglen ddwy flynedd newydd i ddarparu mathau pwrpasol o gerbydau sy'n cyd-fynd â methodoleg casglu gwastraff ac ailgylchu'r Cyngor. Gwerth disgwyliedig y rhaglen yw £9.7m.
Mae rhaglen ddwy flynedd yn caniatáu i'r Cyngor resymoli nifer y cerbydau sy'n ofynnol ar gyfer gweithio pedwar diwrnod a chyfleoedd i gael arian cyfatebol i adeiladu ar lwyddiant presennol wrth ddisodli cerbydau diesel gyda dewisiadau trydan amgen
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 19/02/2021
Angen Penderfyniad: 18 Maw 2021 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd
Scrutiny Consideration: Green