English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y mater

Cymeradwyo 2 gytundeb pecyn mewn egwyddor i greu tua 60 o gartrefi cyngor newydd

Mae gan y Cyngor gyfle i ymrwymo i 'gytundebau pecyn' gyda chontractwyr datblygu i greu 2 ddatblygiad tai newydd. Byddai'r cyntaf yn cynnwys tua 30 o fflatiau un ystafell wely ar gyfer pobl h?n yn Nhreganna a byddai'r ail yn cynnwys tua 31 o fflatiau 1 a 2 ystafell wely oddi ar Pentwyn Drive. Mae'r ddau Ddatblygwr wedi sicrhau'r safleoedd ac yn gweithio eu ffordd drwy'r broses gynllunio. 

Mae'r adroddiad yn gofyn am benderfyniad mewn egwyddor gan y Cabinet i'r cyngor ymrwymo i’r ddau gytundeb pecyn pe bai'r amodau a nodir yn yr adroddiad yn cael eu bodloni. Bydd yr amodau hyn yn cynnwys sicrhau mai’r datblygwyr sydd â buddiant rhydd-ddaliadol y tir, caniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo, a diwydrwydd dyladwy llawn yngl?n â swm y cytundeb pecyn, y costau adeiladu a gwerth yr eiddo ar ôl eu cwblhau.

 

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 15/01/2021

Angen Penderfyniad: 10 Maw 2022 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau

Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau

Scrutiny Consideration: Amber/Ambr

Eitemau Agenda

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.