English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y mater

Strategaeth Sgiliau'r Gymraeg.

Diwygio Strategaeth Sgiliau Iaith Gymraeg flaenorol y Cyngor.

 

Mae angen diwygio’r strategaeth fel y bydd yn adlewyrchu'n well yr ymrwymiadau a wnaed yn Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog, Polisi Caerdydd Ddwyieithog : Cyngor Dwyieithog a gofynion statudol Safonau’r Gymraeg.

 

Mae'r Strategaeth wedi’i diwygio’n mynd i'r afael â materion nodi a chofnodi swyddi Cymraeg hanfodol ac yn cyflwyno gofynion bod pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant hyd at Gymraeg lefel 1 yr ALTE a bod pob rôl cwsmer yn cael ei dynodi'n rôl rhuglder Lefel 3 yr ALTE fel gofyniad dymunol.

 

Bydd y Strategaeth wedi’i diwygio hefyd yn hwyluso’r gwaith o adrodd am broses y Cyngor o recriwtio ar gyfer swyddi Cymraeg hanfodol a dymunol yn yr Adroddiad Blynyddol am Safonau'r Gymraeg. Mae’r adrodd hwn yn ofyniad statudol.

 

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 15/01/2021

Angen Penderfyniad: 25 Chwe 2021 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Arweinydd y Cyngor

Scrutiny Consideration: Green/Gwyrdd

Eitemau Agenda

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.