Mae cynnig wedi’i dderbyn gan Dragon Taxis i newid y tariff teithio y gall cerbydau hacni (tacsis) ei godi yn y ddinas.
Caiff cyngor ardal bennu neu amrywio ffi ar gyfer llogi tacsi dan ddarpariaethau Adran 65 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol), 1976.
Yng nghyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror, cymeradwyodd yr Aelodau y cynnydd mewn egwyddor yn amodol ar gyfnod o rybudd cyhoeddus, yn ôl gofynion y Ddeddf uchod.
Mae’r adroddiad hwn er mwyn i’r Cabinet ystyried y sylwadau a dderbyniwyd i hysbysiad y cyhoedd.
Math: Gwybodaeth yn Unig
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 13/03/2020
Considered on: 14 Mai 2020 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd
Scrutiny Consideration: Green/Gwyrdd