Yn dilyn trasiedi Grenfell Towers, cynhaliodd Cyngor Caerdydd brofion ar y cladin ar ei flociau fflatiau uchel domestig a chymerodd y penderfyniad i’w waredu.
Bellach mae Tai a Chymunedau yn bwriadu ail-gladio Fflatiau Lydstep ac mae wedi cyflogi ymgynghorwyr i ddatblygu dewisiadau dylunio i’r Cyngor eu hystyried.
Yr opsiwn yr ystyriwyd fel yr un mwyaf diogel o ran diogelwch tân yw symud ymlaen gyda’r opsiwn briciau.
Mae Tai a Chymunedau yn gweithio gyda chydweithwyr mewn Projectau, Dylunio a Datblygu a Chaffael i benodi contractwr i ddarparu’r gwaith ail-gladio.
Yr argymhelliad yw penodi Contractwr i ddarparu’r gwaith hwn drwy gystadleuaeth fach o dan Fframwaith Priffyrdd De-ddwyrain Cymru (Lot 8).
Amcangyfrifir mai gwerth y gwaith hwn yw £10 miliwn.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 13/03/2020
Angen Penderfyniad: 19 Maw 2020 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Scrutiny Consideration: Amber/Ambr