Mae gennym gyfle i gaffael hen safle'r Gweithfeydd Nwy yn Ferry Road, Caerdydd. Dyraniad tai strategol yw hwn yn y Cynllun Datblygu Lleol, y rhagwelir y bydd yn darparu tua 500 o gartrefi newydd.
Ar hyn o bryd mae'r safle'n eiddo ar y cyd rhwng y Grid Cenedlaethol a Wales and West Utilities. Mae trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt ers nifer o flynyddoedd rhwng y perchnogion a Persimmon Homes. Er gwaethaf y trafodaethau hirfaith hyn, nid yw Persimmon Homes wedi ymrwymo i gontractau eto. Mae'r perchenogion yn teimlo'n rhwystredig am yr amser a gymerir i gwblhau'r cytundeb ac felly'n chwilio am ddewis arall.
Cawsom drafodaethau cyfrinachol gyda'r perchenogion i gadarnhau ein diddordeb mewn caffael y safle a gofynnwyd i ni gyflwyno cynnig erbyn 31 Ionawr 2020 i'w ystyried, nad yw'n destun amodau cynllunio na thir. Rydym wedi comisiynu cyngor arbenigol ar y costau annormal o ran datblygu'r safle er mwyn gallu ystyried hyn mewn adroddiad prisio.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 14/02/2020
Angen Penderfyniad: 19 Maw 2020 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Scrutiny Consideration: Amber/Ambr