English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y mater

Caffael safle'r Gweithfeydd Nwy yn Grangetown

Mae gennym gyfle i gaffael hen safle'r Gweithfeydd Nwy yn Ferry Road, Caerdydd.  Dyraniad tai strategol yw hwn yn y Cynllun Datblygu Lleol, y rhagwelir y bydd yn darparu tua 500 o gartrefi newydd.

 

Ar hyn o bryd mae'r safle'n eiddo ar y cyd rhwng y Grid Cenedlaethol a Wales and West Utilities.   Mae trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt ers nifer o flynyddoedd rhwng y perchnogion a Persimmon Homes.   Er gwaethaf y trafodaethau hirfaith hyn, nid yw Persimmon Homes wedi ymrwymo i gontractau eto.   Mae'r perchenogion yn teimlo'n rhwystredig am yr amser a gymerir i gwblhau'r cytundeb ac felly'n chwilio am ddewis arall.

 

Cawsom drafodaethau cyfrinachol gyda'r perchenogion i gadarnhau ein diddordeb mewn caffael y safle a gofynnwyd i ni gyflwyno cynnig erbyn 31 Ionawr 2020 i'w ystyried, nad yw'n destun amodau cynllunio na thir.  Rydym wedi comisiynu cyngor arbenigol ar y costau annormal o ran datblygu'r safle er mwyn gallu ystyried hyn mewn adroddiad prisio.

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 14/02/2020

Angen Penderfyniad: 19 Maw 2020 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau

Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau

Scrutiny Consideration: Amber/Ambr

Eitemau Agenda

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.