Manylion y mater

Dinasoedd a Chymunedau o Blaid Pobl Hŷn

Erbyn 2030 amcangyfrifir y bydd cynnydd o 44% yn nifer y bobl dros 65 oed sy'n byw yng Nghaerdydd.  Mae angen sicrhau bod gan y Ddinas yr adnoddau i ymateb i'r heriau sy'n wynebu dinasyddion h?n a sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen i ffynnu ac aros yn iach. Er bod rhywfaint o arfer da o fewn y Ddinas, byddai gweithredu diwylliant o welliant parhaus yn sicrhau bod Caerdydd yn grymuso pobl h?n i heneiddio'n dda. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datblygu'r cysyniad o ddinas a chymuned sy’n rhoi cyfleoedd i’r henoed lle mae gwasanaethau, grwpiau lleol, busnesau a dinasyddion yn gweithio gyda'i gilydd i wneud newidiadau cadarnhaol i gefnogi pobl i fyw bywydau iach ac annibynnol.

 

Math o fusnes: Key

Statws: Wedi ei ddileu

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 14/02/2020

Scrutiny Consideration: Green/Gwyrdd