Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) cyfredol ar 28 Ionawr 2016. Yn unol â deddfwriaeth mae angen i Awdurdodau Lleol gynnal adolygiad llawn o’u CDLl wedi 4 blynedd o’i fabwysiadu. Cam cyntaf y broses hon yw paratoi ac ymgynghori ar yr Adroddiad Adolygu drafft a’r Cytundeb Cyflawni CDLl Newydd Caerdydd drafft. Yn dilyn penderfyniad y Cyngor ar 28 Tachwedd 2019, cynhaliwyd ymgynghoriad ar y dogfennau hyn rhwng 14 Ionawr 2020 ac 11 Chwefror 2020.
Diben yr adroddiad hwn yw adrodd yn ôl i'r Cyngor ar ganfyddiadau'r broses ymgynghori hon ac argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Adroddiad Adolygu Terfynol a’r Cytundeb Cyflawni'r CDLl Newydd, a'u hanfon ymlaen i Lywodraeth Cymru iddi gytuno arnynt ac, yn amodol ar fod cytundeb yn cael ei roi, yn dechrau ar y gwaith o baratoi'r CDLl Newydd.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 17/01/2020
Angen Penderfyniad: 19 Maw 2020 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd