Mae gatiau lonydd cefn yn fesur syml ac effeithiol sy'n helpu i leihau lefelau o drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a allai barhau er anfantais i gymunedau lleol fel arall.
Yn 2008, gweithredodd Cyngor Caerdydd bolisi gosod gatiau lonydd cefn, ac mae'n parhau i gefnogi a chydnabod pwysigrwydd y cynlluniau hyn. Ers hynny, mae gatiau wedi’u gosod mewn nwy na 180 o lonydd, gan fod o fudd i tua 7,500 eiddo.
Yn 2014, diddymwyd y pwerau deddfwriaethol ar gyfer gosod gatiau lonydd cefn dan y Ddeddf Priffyrdd, ac fe'u deddfwyd fel Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona. Er ei bod yn ymddangos bod gorchmynion gosod gatiau cefn a GDMACau yn debyg, mae rhai gwahaniaethau gweithdrefnol a gyflwynwyd yn rhan o'r gofynion deddfwriaethol newydd.
Diben yr adroddiad hwn yw cynnig polisi a strategaeth gosod gatiau lonydd cefn newydd yn unol â'r gofynion deddfwriaethol cyfredol, gan nodi'r ystyriaethau a'r gweithdrefnau gweithredol sy'n gysylltiedig â chyflawni'r cynlluniau hyn.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 17/01/2020
Angen Penderfyniad: 19 Maw 2020 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Scrutiny Consideration: Amber/Ambr