Mae’r ddau broject adeiladu newydd yma wedi eu cynnwys yn rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor a bydd yn cyflenwi fflatiau pobl h?n i safon parod at ofal yn ogystal â gofod cymunedol.
Mae’r costau datblygu a amcanestynnir ar gyfer y projectau hyn yn fwy na £5 miliwn ac felly mae angen cymeradwyaeth y Cabinet i’n galluogi ni i dendro am gontractwr.
Y costau adeiladu a amcanestynnir ar gyfer Llaneirwg yw £10.3 miliwn. Bydd y cynllun yn helpu i gyflenwi 60 o fflatiau hygyrch a gofod cymunedol cysylltiedig.
Y costau a amcanestynnir ar gyfer Maelfa yw £10.1 miliwn.Bydd y cynllun yn helpu i gyflenwi 41 o fflatiau hygyrch a gofod cymunedol cysylltiedig.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 13/12/2019
Angen Penderfyniad: 23 Ion 2020 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Scrutiny Consideration: Green/Gwyrdd