Roedd yr adroddiad cabinet ar 20 Medi 2018 yn galw am gymeradwyaeth ar gyfer ymagwedd at Wasanaethau Gofal Cartref a oedd yn seilieig ar ganlyniadau lleol.
Bydd yr Institute of Public Care (IPC) yn cefnogi cyngor Caerdydd i ymgysylltu â’r farchnad gan gynnwys amrywiol adrannau (system cyfan) i ddatblygu gwasanaeth gwell, cadarnach, hyblyg a blaengar sy’n diwallu ystod o anghenion oedolion a phlant sy’n derbyn gofal a chymorth.
Bydd y model gwasanaeth yn cael ei gynllunio i ystyried rhyngddibyniaethau eraill y mae’r cyngor yn gweithio drwyddynt sy’n cynnwys Timau Adnoddau Cymunedol (TAC) ac ymagwedd yn seiliedig ar gryfhau.
Law yn llaw â manyleb ar gyfer y gwasanaeth fe fydd set o ddeilliannau ar gyfer dinasyddion gyda dangosyddion perfformiad allweddol a set o safonau ansawdd.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 15/11/2019
Angen Penderfyniad: 23 Ion 2020 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Scrutiny Consideration: Amber/Ambr