Fel rhan o’r broses gosod cyllideb cyfalaf ar gyfer 2019/20, dyrannodd y Cyngor £853,000 yn ystod 2019/20 ar gyfer addasiadau. Roedd hyn ar gyfer un flwyddyn yn unig, gydag unrhyw geisiadau ar gyfer y dyfodol "yn destun adolygiad i'w ystyried gan y Cabinet mewn perthynas ag effaith gwariant mewn meysydd eraill o ganlyniad i fuddsoddiad mewn addasiadau. Bydd yr effaith ar alw a fforddiadwyedd gwariant o ganlyniad i newidiadau mewn polisïau LlC a’r Cyngor yn y maes hwn hefyd yn cael ei ystyried”
Mae’r adroddiad hwn yn cyflawni adolygiad llawn o wariant ac yn gwerthuso’r effaith i unigolion ac osgoi costau o'r buddsoddiad ataliol hwn. Bydd hefyd yn ystyried ac yn argymell newidiadau posibl i leihau’r effaith ar wariant.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 20/09/2019
Angen Penderfyniad: 23 Ion 2020 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Scrutiny Consideration: Amber/Ambr