Trosglwyddwyd Rheolaeth gweithwyr Caerdydd ar Waith a Matrix (contract ar gyfer asiantaeth dros dro) o Adnoddau Dynol i Dai a Chymunedau ym mis Ebrill 2019.
Y weledigaeth gyfunol y tu ôl i hyn oedd creu cysylltiadau newydd ac alinio cyfleoedd rhwng gwasanaethau I Mewn i Waith, Caerdydd ar Waith a darpariaethau asiantaethol eraill yn gyfan gwbl. Byddai hyn yn cynnwys cyfweliadau gwarantedig, lleoliadau gwaith a blaenoriaethu cleientiaid i mewn i waith ar gyfer unrhyw gyfleoedd sydd ar y gweill.
Mae Matrix wedi bod yn cyflenwi’r Cyngor â staff asiantaeth ers mis Rhagfyr 2016. Daw’r contract i ben ar 7 Medi 2019.
Mae angen cynnal adolygiad llwyr o’r gwasanaeth i ddeall yr hyn sydd ei angen yn union gan y darparwr gwasanaeth a sut i ychwanegu gwerth i’r contract yn y modd gorau posibl, cyn cynnal unrhyw waith ail-gomisiynu. Y cynnig yw dyfarnu contract uniongyrchol i Matrix am 12 mis er mwyn gallu cyflawni hyn. Bwriedir i’r contract newydd ddod i rym erbyn Medi 2020 .
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 07/06/2019
Angen Penderfyniad: 11 Gorff 2019 Yn ôl Cabinet
Scrutiny Consideration: Amber/Amber