Ym mis Mai 2016, cytunodd Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg i gymryd rhan yn y gwaith o adsefydlu ffoaduriaid agored i niwed o Syria dan gynllun y Swyddfa Gartref ar sail ranbarthol, dan Gydgytundeb tair blynedd.
Ym mis Mai 2016, penodwyd darparwr Gwasanaethau Cymorth ac Integreiddio i roi cymorth adsefydlu ledled y rhanbarth, yn unol â’r gofynion a nodir yng Nghyfarwyddiadau Ariannu’r Swyddfa Gartref.
Daw’r ddau Gytundeb i ben ar 16 Mai 2019, felly mae angen cymeradwyaeth y Cabinet i barhau i gymryd rhan yn y gwaith o adsefydlu ffoaduriaid agored i niwed tan fis Mawrth 2020, ar sail ranbarthol, yn unol â chynllun y Swyddfa Gartref.
Cymerir rhan yn y Cynllun yn wirfoddol ac ar yr amod bod cyllid grant ar gyfer i Gyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg bob blwyddyn i gefnogi costau adsefydlu ac integreiddio.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 12/04/2019
Angen Penderfyniad: 16 Mai 2019 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Scrutiny Consideration: Amber/Ambr