Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Papur Gwyn o’r enw Trafnidiaeth Cyhoeddus Gwell, gan drafod opsiynau posibl i wella gwasanaethau bws yng Nghymru gan gynnwys sefydlu un neu fwy o Awdurdodau Trafnidiaeth ar y cyd i gynnal swyddogaethau cynllunio trafnidiaeth sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan Awdurdodau Lleol, gan alluogi Awdurdodau Lleol i sefydlu cwmnïau bws lleol, a newid deddfwriaeth er mwyn masnachfreinio gwasanaethau bws lleol.
Mae’r papur hefyd yn trafod cynigion i osod holl safonau Cymru ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat ac i ehangu pwerau Awdurdodau Trwyddedu i drafod bob cerbyd sy’n gweithredu yn ardal yr awdurdod, p’un a ydynt wedi’u trwyddedu gan yr awdurdod hwnnw ai peidio.
Yn ogystal, cynigir newidiadau i’r cynllun Ffioedd Consesiynol Cymru Gyfan a chymhwysedd y cynllun Pobl Ifanc.
Mae’r adroddiad yn trafod ymateb y Cyngor i’r Papur Gwyn.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 21/02/2019
Angen Penderfyniad: 21 Maw 2019 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth
Scrutiny Consideration: Amber/Ambr