English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Manylion y mater

Darpariaeth Gofal Cartref yng Nghaerdydd

Mae’r trefniadau cytundebol presennol a ddefnyddir gan Gyngor Caerdydd i gomisiynu gofal preswyl yn dod i ben ar 3 Tachwedd 2018. Ym mis Ionawr 2017, ceisiodd y Gwasanaethau Cymdeithasol gymeradwyaeth y Cabinet i fynd i mewn i drefniadau cytundebol newydd o 4 Tachwedd 2018 ymlaen. Byddai’r trefniadau newydd yn defnyddio’r un dull cyffredinol ag sydd ar waith ar hyn o bryd, heb lawer o newidiadau sylweddol o ran sut roedd gofal yn cael ei gomisiynu na sut fyddai’r trefniadau cytundebol yn gweithio.

Diben yr adroddiad yw ceisio cytundeb i derfynu’r cynigion yn Adroddiad Cabinet Ionawr 2018 a chymryd dull gwahanol.

Bydd yr adroddiad a gyflwynwyd ym mis Medi 2018 yn nodi’r weledigaeth ar gyfer gofal preswyl yng Nghaerdydd, yn disgrifio sut mae hyn yn berthnasol i ddulliau eraill o ddarpariaeth a chymorth cymunedol a sut fydd yn cael ei gyflawni. Bydd yr adroddiad hefyd yn nodi sut bydd y trefniadau cytundebol presennol yn cael eu datrys, yn seiliedig ar gyngor cyfreithiol a dderbyniwyd a’r angen i sicrhau parhad y ddarpariaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth a sefydlogrwydd i ddarparwyr gofal.

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 14/09/2018

Angen Penderfyniad: 20 Medi 2018 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles

Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau

Scrutiny Consideration: Amber

Penderfyniadau

Eitemau Agenda

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.