Manylion y mater

Polisi Risg Ffyrdd Galwedigaethol Cyngor Caerdydd

Mae angen Trwydded Gweithredwyr ar y Cyngor i weithredu ei fflyd o 700+ o gerbydau gan gynnwys Cerbydau Nwyddau Mawr c.85. Mae adolygiad o ofynion cydymffurfiaeth y Drwydded Gweithredwyr wedi nodi nifer o feysydd i’w gwella.  Mewn ymateb, cytunwyd y byddai Gweithgor Risg Ffyrdd Galwedigaethol yn cael ei sefydlu ac y byddai Polisi Risg Ffyrdd Galwedigaethol yn cael ei baratoi. 

 

Nod y polisi yw:

 

  • codi ymwybyddiaeth o risgiau ffyrdd galwedigaethol yn y Cyngor, ac
  • Egluro cyfrifoldebau a chefnogi gweithlu’r Cyngor, Cyfarwyddwyr/Cyfarwyddwyr Cynorthwyol, Rheolwyr Gweithredol, Rheolwyr a Goruchwylwyr, a gyrwyr i gyflawni safonau uchel o ddiogelwch

 

i leihau risgiau sy’n gysylltiedig â gyrru a gweithredu cerbydau.

 

Bydd yn berthnasol i bob cyflogai’r Cyngor, gan gynnwys Aelodau Etholedig, sy’n gyrru cerbydau’r Cyngor/cerbydau wedi’u llogi neu brydlesu a’r rhai hynny sy’n teithio wrth gyflawni busnes y Cyngor neu’n gyrru eu ceir eu hunain.

 

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 08/06/2018

Angen Penderfyniad: 12 Gorff 2018 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu

Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd

Scrutiny Consideration: Amber

Penderfyniadau

Eitemau Agenda