Mae’r amddiffynfeydd arfordirol ledled blaendraeth Caerdydd mewn cyflwr gwael iawn ac maent yn erydu’n gyflym iawn.
Mae achos busnes amlinellol wedi’i
greu gyda’r nod o wella’r amddiffynfeydd arfordirol ac
afonol presennol i gynnig mwy o ddiogelwch i bobl ac eiddo yn
ne-ddwyrain Caerdydd rhag erydu arfordirol a pherygl o lifogydd, ac
i atal erydiad mewn dwy safle tirlenwi sydd wedi’u
datgomisiynu a phriffordd fabwysiedig Rover Way.
Mae llawer o’r arfordir ledled ardal y project yn erydu, a chyda chynnydd disgwyliedig yn lefel y môr yn sgil newid yn yr hinsawdd, bydd y risg o lifogydd ac erydiad yn cynyddu yn y dyfodol. Bydd y cynllun arfaethedig yn rheoli’r risg o lifogydd i 1,116 eiddo preswyl a 72 eiddo amhreswyl dros 100 mlynedd, ynghyd ag atal erydiad pellach. Mae’r cynllun yn gyfuniad o amddiffynfeydd cerrig, codi argloddiau a gosod pyst seiliau.
Ceisir cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â’r project i’r cam Dylunio Manwl yn rhan o Raglen Reoli Risgiau Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion Cymeradwy
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 12/01/2018
Angen Penderfyniad: 15 Maw 2018 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd
Prif Gyfarwyddwr: Director of City Operations
Scrutiny Consideration: Coch