English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth yngl?n â’r hyn y mae cyrff penderfynu'r cyngor wedi'i benderfynu yn ddiweddar.

Neu gallwch ymweld â thudalen penderfyniadau swyddogion ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau y mae swyddogion penodol y cyngor wedi'u.

Gallwch hefyd edrych ar grynoadau o’n penderfyniadau.

Cofrestrau Penderfyniad / nid Rhybuddion yn cael eu cyfieithu fel mater o drefn, Os oes angen fersiwn Cymraeg cysylltwch â'r Swyddfa Cabinet ar 02920 872396

Decisions argymhellion cymeradwy (yn amodol ar galw i mewn)

08/04/2024 - Digartrefedd - Cynyddu Llety Dros Dro i Deuluoedd ref: 2132    Ar gyfer Penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Director of Adults Services, Housing & Communities

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 11/04/2024

Effeithiol O: 23/04/2024

Penderfyniad:

Nid yw Atodiad 1 yr adroddiad hwn i’w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 16 (cyngor cyfreithiol) Rhan 4 o Atodlen 12 A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

 

CYTUNWYD: bod y defnydd o Westy'r Copthorne fel y nodir yn yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 


08/04/2024 - Codiad Blynyddol 2024/25 ar gyfer Byw â Chymorth, Darparwyr Contractau Bloc a Chwim ar gyfer Gofal Ychwanegol a Seibiant Anabledd Dysgu ref: 2131    Ar gyfer Penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Director of Adults Services, Housing & Communities

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 11/04/2024

Effeithiol O: 23/04/2024

Penderfyniad:

CYTUNWYD ar y canlynol:

 

  • Yn unol â threfniadau cytundebol, bydd darparwyr Gofal Ychwanegol a Byw â Chymorth y manylir arnynt yn y tabl ym mharagraff 32 o'r adroddiad hwn yn derbyn y cynnydd MPD contractiol blynyddol penodedig. Fodd bynnag, i gydnabod pwysau CBG, os yw'r codiad cytundebol blynyddol yn llai na 7.26% (mae'r ffigur hwn yn cynrychioli codiad MPD o 3% ar 40% o gost y contract, ynghyd â chynnydd CBG o 10.1% ar 60% o gost y contract), bydd y gwahaniaeth hefyd yn cael ei ddarparu, i gymryd cyfanswm y cynnydd blynyddol i 7.26%. Mae'r argymhelliad hwn ond yn berthnasol i drefniadau lle mae cyfradd berthnasol y MPD eisoes yn hysbys ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn.

 

  • Ar gyfer y contractau hynny lle nad yw'r codiad MPD yn hysbys ar hyn o bryd oherwydd bod y dyddiad y'i cymhwysir yn disgyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cytunwyd y rhoddir ystyriaeth i ddigonolrwydd y codiad MPD blynyddol i dalu costau CBG bryd hynny.

 

  • Darperir cymorth dros dro i dalu am y cynnydd Cyflog Byw Gwirioneddol (CBG) ar ffurf grant i'r darparwyr hynny y mae eu pen-blwydd dyddiad dechrau contract ar ôl 1 Ebrill, i gefnogi cynnal a chadw'r CBG yn ystod y cyfnod o fis Ebrill tan ben-blwydd dyddiad dechrau'r contract pan fydd y codiad blynyddol yn cael ei drosglwyddo. Bydd y grantiau'n adlewyrchu'r cynnydd canrannol ar gyfer CBG o 10.1% (y gwahaniaeth rhwng y gyfradd bresennol o £10.90 a'r gyfradd newydd o £12.00) a briodolir i 60% o gostau darparwyr y deellir eu bod yn ymwneud â staffio.

 

  • Y cynnydd o 7.26% ar gyfer darparwyr y manylir arnynt ym mharagraffau 34 – 36 o'r adroddiad hwn, sy'n ystyried codiad MPD o 3% a'r cynnydd canran ar gyfer CBG o 10.1% (y gwahaniaeth rhwng y gyfradd bresennol o £10.90 a'r gyfradd newydd o £12.00) a briodolir i 60% o gostau darparwyr y deallir eu bod yn ymwneud â staffio.

 

Gweinyddu Codiadau yn y Cyfraddau

 

  • Gweinyddir codiadau yn unol â chytundebau contractiol.  Y grant i'r darparwyr hynny y mae eu dyddiad pen-blwydd contract yn dechrau ar ôl 1 Ebrill, yn cwmpasu'r cyfnod o 1 Ebrill 2024 hyd at ben-blwydd dyddiad cychwyn pob contract pan fydd y codiad MPD yn daladwy.

 

Amrywiadau mewn Contractau

 

  • Caiff Ffurflen Amrywio Contract ei chyflwyno i ddarparwyr sy’n derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol (a leolir yn Atodiad A), er mwyn sicrhau eu cytundeb i barhau i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i staff cymwys o leiaf o 1 Ebrill 2024.

 


08/04/2024 - Gwasanaeth Cyfieithu Cymru - Gweithred Amrywio ref: 2130    Ar gyfer Penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 11/04/2024

Effeithiol O: 23/04/2024

Penderfyniad:

CYTUNWYD: bod Cytundeb Cydweithio’r Gwasanaeth Cyfieithu Cymru yn cael ei ddiwygio lle bydd y cytundeb yn parhau am gyfnod cychwynnol o ddeuddeg (12) mis ac ar yr adeg honno oni bai y terfynir fel arall yn unol â Chytundeb Cydweithio’r Gwasanaeth Cyfieithu Cymru bydd yn cael ei adnewyddu'n awtomatig am gyfnodau olynol o ddeuddeg (12) mis.

 


 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.