English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth yngl?n â’r hyn y mae cyrff penderfynu'r cyngor wedi'i benderfynu yn ddiweddar.

Neu gallwch ymweld â thudalen penderfyniadau swyddogion ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau y mae swyddogion penodol y cyngor wedi'u.

Gallwch hefyd edrych ar grynoadau o’n penderfyniadau.

Cofrestrau Penderfyniad / nid Rhybuddion yn cael eu cyfieithu fel mater o drefn, Os oes angen fersiwn Cymraeg cysylltwch â'r Swyddfa Cabinet ar 02920 872396

Cynharach - Hwyrach

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

10/10/2019 - Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019 ref: 1177    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 11/10/2019

Effeithiol O: 10/10/2019

Penderfyniad:

Cymeradwywyd


10/10/2019 - Tendr ar gyfer Creu Trydan o Nwy Tirlenwi a Nwy Naturiol Posibl, gan gynnws Rheoli Nwy Tirlenwi ref: 1179    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 10/10/2019

Effeithiol O: 23/10/2019

Penderfyniad:

CYTUNWYD: bod

 

1.   y broses gaffael i gomisiynu trefniadau newydd ar gyfer darparu trydan o safleoedd tirlenwi ac o bosibl nwy naturiol ac o bosibl reoli nwy naturiol yn safleoedd tirlenwi Ffordd Lamby a Ferry Road yn cael eu cytuno

 

2.   awdurdod i’w ddirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a Phobl, yn amodol ar ymgynghori gyda’r Aelod cabinet dros Gyllid, perfformiad a Moderneiddio a'r Aelod Cabinet dros strydoedd glân, ailgylchu ac amgylcheddau, Swyddog a151 a’r Cyfarwyddwr Llywodraethiant  Gwasanaethau Cyfreithiol, i ddelio gyda phob agwedd ar y broses gaffael (gan gynnwys cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio, rhoi cychwyn ar y caffael ac awdurdodi dyfarnu’r contract arfaethedig) a phob mater cysylltiol arall yn ymwneud â'r caffael.

 


10/10/2019 - Sicrhau Dyfodol y Theatr Newydd ref: 1182    Argymhellion Cymeradwy (yn amodol ar galw i mewn)

Nodi prif bwyntiau dull newydd o weithredu’r Theatr Newydd.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 10/10/2019

Effeithiol O: 10/10/2019

Penderfyniad:

Ni chaiff Atodiadau 1-6 yr adroddiad eu cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a pharagraff atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

CYTUNWYD:

 

(1)     cymeradwyo dewis y tenant a argymhellir

 

(2)     dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gydag Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden. Y Swyddog Monitro a’r swyddog Adran 151 i roi trefn derfynol ar y Brydles ar sail y Penawdau Telerau a nodir yn Atodiad Cyfrinachol 5.

 


10/10/2019 - Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ref: 1185    Argymhellion Cymeradwy

Bydd yr adroddiad yn rhoi briff i’r Cabinet ar gynnydd Datblygiad y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol a’r model darparu a gynigir ar gyfer cam 2 datblygiad y safle.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 10/10/2019

Effeithiol O: 23/10/2019

Penderfyniad:

Ni chaiff Atodiad 4 yr adroddiad ei gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

CYTUNWYD:

 

1.   cymeradwyo’r strategaeth ddatblygu newydd ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

 

2.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i fynd â datblygiad Glannau'r D?r yn ei flaen gan gynnwys gwaredu tir a neilltuo unrhyw dderbyniadau cyfalaf yn unol â’r strategaeth gyllidol a amlinellir yn Atodiad cyfrinachol 4 ac yn amodol ar brisiad annibynnol fel y bo’r angen.

 

3.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i ddelio â phob agwedd ar gaffael partner masnachol i sefydlu a gweithredu atyniad hamdden newydd yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn a dychwelyd at y Cyngor i'w gymeradwyo'n derfynol. 

 

4.   Yn rhan o (iii) uchod,  dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i gynnwys gweithrediad allanol DGRhC yn rhan o’r broses gaffael yn unol â’r strategaeth a nodir yn yr adroddiad hwn a dychwelyd at y Cyngor i’w gymeradwyo’n derfynol.

 


10/10/2019 - Gweledigaeth a Strategaeth Caerdydd 2030 ref: 1183    Argymhellion Cymeradwy

Cafodd y strategaeth gyfredol ar gyfer addysg a dysgu yng Nghaerdydd ei lansio ym mis Mehefin 2016: ‘Caerdydd 2020’.  

Mae’r cyd-ymrwymiad i wella addysg yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd diwethaf wedi cael effaith sylweddol. 

Dros y 10 mlynedd nesaf tan 2030 bydd angen i ni adeiladu ar y gwaith hwn a datblygu dulliau newydd i wireddu potensial llawn y system addysg yng Nghaerdydd erbyn 2030.  

Bydd gweledigaeth a strategaeth Caerdydd 2030 yn nodi’r uchelgais hwn a’r golau i’w cyflawni o ran gwireddu hynny.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 10/10/2019

Effeithiol O: 23/10/2019

Penderfyniad:

1.    cymeradwyo mabwysiadu Gweledigaeth Caerdydd 2030

 

2.    dirprwyo cyfrifoldeb i’r Gyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes dros ddatblygu a gweithredu’r cynlluniau gweithredol i gyflawni’r mesurau llwyddiant a nodir yn y strategaeth.

 


10/10/2019 - Ymgynghoriad Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ref: 1187    Argymhellion Cymeradwy

Ymgynghorwyd â’r Cyngor ar ymgynghoriad drafft y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC).  Mae’r ddogfen hon yn nodi strategaeth ofodol i Gymru dros y cyfnod 2020 i 2040 ac yn gosod y cyd-destun ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol yn y dyfodol yng Nghymru.  Mae’r adroddiad hwn yn nodi sylwadau’r Cyngor ar yr ymgynghoriad drafft ac mae’n rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 1 Tachwedd 2019.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 10/10/2019

Effeithiol O: 23/10/2019

Penderfyniad:

CYTUNWYD: cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r Ymgynghoriad FfDC Drafft fel y'i nodir ym mharagraffau 9-20 yr adroddiad hwn a cheisio trafodaeth bellach gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion a godir ynddo.


10/10/2019 - Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Reoliadol a Rennir 2018/19 ref: 1180    Argymhellion Cymeradwy

Ym mis Ebrill 2015 llofnododd Cyngor Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg Gytundeb Cydweithio ar gyfer darparu Gwasanaethau rheoliadol ar draws y tair ardal.

 

Yn unol â Chymal 5.1 y Cytundeb Cydweithio, mae gofyn i’r SRS gynhyrchu adroddiad blynyddol ar berfformiad gweithredol ac ariannol y gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn flaenorol.  

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 10/10/2019

Effeithiol O: 10/10/2019

Penderfyniad:

CYTUNWYD: nodi Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau a Rennir ar gyfer 2018-19.


10/10/2019 - Ymateb y Cabinet i'r Adroddiad Craffu Amgylcheddol o'r enw 'Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd' ref: 1178    Argymhellion Cymeradwy

Bydd yr adroddiad yn cynnwys ymateb y Cabinet i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol o’r enw ‘Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd’

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 10/10/2019

Effeithiol O: 23/10/2019

Penderfyniad:

CYTUNWYD: bod yr ymateb i adroddiad ‘Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd’ y Pwyllgor Craffu ar yr Amgylchedd fel y mae yn Atodiad 1 yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 


10/10/2019 - Diweddariad ar Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd ref: 1181    Argymhellion Cymeradwy (yn amodol ar galw i mewn)

Bydd yr adroddiad yn cytuno ar y camau nesaf ar gyfer sefydlu Bwrdd Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd i oruchwylio’r gwaith o roi’r Strategaeth Gerddoriaeth ar waith

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 10/10/2019

Effeithiol O: 10/10/2019

Penderfyniad:

Ni chaiff Atodiad 5 yr adroddiad ei gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a pharagraff atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

CYTUNWYD:

 

(1)     cymeradwyo’r ymateb i Adroddiad Sound Diplomacy wedi ei atodi fel Atodiad 2 at yr adroddiad.

 

(2)     cymeradwyo Cylch Gorchwyl Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd sydd wedi ei atodi fel Atodiad 3 i'r adroddiad

 

(3)     cymeradwyo penodi Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd i benodi’r unigolion a enwir yn Atodiad Cyfrinachol 5 yr adroddiad

 

(4)     dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Swyddog Monitro a'r swyddog Adran 151 i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynigion manwl ar gyfer y prif ddigwyddiad fel y’i amlinellir ym mharagraff 22 yr adroddiad i’w ddiweddaru mewn cyfarfod o’r Cabinet yn y dyfodol.

 


10/10/2019 - Trydydd Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd ref: 1186    Argymhellion Cymeradwy

Cafodd Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd (CDLl) ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cyngor ar 28 Ionawr 2016. Yn rhan o’r broses cynllun datblygu statudol mae angen i’r Cyngor baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Tachwedd bob blwyddyn.Bydd yr adroddiad hwn yn amlinellu’r diben, y prif ganfyddiadau a chanlyniadau’r ail AMB, a cheisio cymeradwyaeth i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 10/10/2019

Effeithiol O: 23/10/2019

Penderfyniad:

CYTUNWYD: argymell wrth y Cyngor ei fod yn derbyn y trydydd AMB i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019.


10/10/2019 - Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd ref: 1184    Argymhellion Cymeradwy

Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet am Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/10/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 10/10/2019

Effeithiol O: 23/10/2019

Penderfyniad:

I.       cymeradwyo Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd

 

II.       dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad gydag Aelod y cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Swyddog Monitro a’r swyddog Adran 151 i ddatblygu cyfleoedd ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor, gan gynnwys marchnata tir i’w waredu a dychwelyd at y cabinet fel y bo'n briodol.

 

III.    gofyn i Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr i hybu cais i Brifddinas Ranbarth Caerdydd am fuddsoddiad ym mhroject Parcffordd Caerdydd.

 


26/09/2019 - Cofnodion Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019 ref: 1167    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 26/09/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/09/2019

Effeithiol O: 26/09/2019

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 


26/09/2019 - Derbyn adroddiad y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a'r Gymuned o'r enw Llety â Chymorth a Dros Dro - Porth Person Sengl (copi wedi'i atodi) ref: 1168    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 26/09/2019 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/09/2019

Effeithiol O: 26/09/2019

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Derbyn adroddiad y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion dan y teitl ‘Llety â Chymorth a Dros Dro – Porth y Person Sengl’ ac ateb i’w baratoi erbyn mis Rhagfyr 2019

 


26/09/2019 - FFRAMWAITH AR GYFER UWCHRADDIO TOEAU BLOCIAU O FFLATIAU ref: 1176    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/09/2019

Effeithiol O: 10/10/2019

Penderfyniad:

Cytunwyd: fod

 

1.Y sefydliadau hynny a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad fel rhai a oedd ar y rhestr fer i gael eu cymryd i’r cam nesaf yn y broses gaffael a’u gwahodd i dendro.

 

2.Dogfennau’r gwahoddiad i dendro, gan gynnwys meini prawf gwerthuso, cytundeb fframwaith drafft i gael eu cymeradwyo a’u cyhoeddi i’r sefydliadau hynny a nodwyd yn Atodiad A.

 

 

 


 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.