Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth yngl?n â’r hyn y mae cyrff penderfynu'r cyngor wedi'i benderfynu yn ddiweddar.

Neu gallwch ymweld â thudalen penderfyniadau swyddogion ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau y mae swyddogion penodol y cyngor wedi'u.

Gallwch hefyd edrych ar grynoadau o’n penderfyniadau.

Cofrestrau Penderfyniad / nid Rhybuddion yn cael eu cyfieithu fel mater o drefn, Os oes angen fersiwn Cymraeg cysylltwch รข'r Swyddfa Cabinet ar 02920 872396

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

04/08/2020 - FRAMEWORK FOR ELECTRICAL TESTING ref: 1341    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/08/2020

Effeithiol O: 22/08/2020

Penderfyniad:

CYTUNWYD:

 

1.    i nodi canlyniad y broses werthuso a nodir yn Atodiad A o ran safle y cynigwyr;

 

2.    cyfarwyddo’r swyddogion i roi gwybod i’r partïon hynny a wnaeth dendro yn y mater hwn (yn ogystal â’r rheiny a fynegodd ddiddordeb yn y mater hwn) am ganlyniad y broses werthuso a’r ffordd ymlaen sydd wedi’i chynnig (fel y nodir yn yr adroddiad);

 

3.    cwblhau’r Cytundeb Fframwaith yn ffurfiol gyda’r sefydliad a nodir yn Atodiad A.


30/07/2020 - Trosglwyddo Canolfan Chwarae Llanrhymni a'r tir o'i chwmpas. ref: 1339    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/08/2020

Effeithiol O: 13/08/2020

Penderfyniad:

Trosglwyddo Canolfan Chwarae Llanrhymni a’r tir o’i chwmpas.

 

Ni chaiff atodiad 2 yr adroddiad ei gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cytunwyd: bod yr eiddo’n cael ei ddatgan yn eiddo nad oes ei angen ar y Cyngor a bod yr eiddo’n cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i Gymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd ar werth y farchnad yn ôl y prisiad trydydd parti annibynnol.

 


30/07/2020 - Prynu tir 0.486 acer yn 151 Stryd Bute, Butetown, Caerdydd, CF10 5HQ ref: 1338    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/08/2020

Effeithiol O: 13/08/2020

Penderfyniad:

Prynu tir 0.486 acer yn 151 Stryd Bute, Butetown, Caerdydd, CF10 5HQ

 

Ni chaiff Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad eu cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir o’r disgrifiad ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cytunwyd: bod y Cyngor yn prynu tir 0.486 acer, sef safle a gliriwyd hen warws ac ystafell arddangos Brandon Tool Hire yn 151 Stryd Bute, Butetown, Caerdydd, CF10 5HQ, am bris a gadarnhawyd gan y prisiad annibynnol fel y nodir yn yr adroddiad wedi’i atodi (Atodiad 2 sy’n gyfrinachol - nid i'w gyhoeddi) ac ar delerau y cytunwyd arnynt gan y Pennaeth Eiddo, Ystadau Strategol a Rheolwr Gweithredol a Phrif Gyfreithiwr y Gwasanaethau Cyfreithiol.

 


29/07/2020 - Cytunbeb i Wates Residential symud ymlaen i gam 2/3 rhaglen ddatblygu Cartrefi Caerdydd Gan gynnwys cymeradwyo newidiadau i'r Cytundeb Datblygu a'i amserlenni a chontract adeiladu Dylunio ac Adeiladu 2016 y Tribiwnlys Contractau ar y Cyd gyda diwygia ref: 1337    Argymhellion Cymeradwy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/08/2020

Effeithiol O: 13/08/2020

Penderfyniad:

Cytunbeb i Wates Residential symud ymlaen i gam 2/3 rhaglen ddatblygu Cartrefi Caerdydd Gan gynnwys cymeradwyo newidiadau i’r Cytundeb Datblygu a’i amserlenni a chontract adeiladu Dylunio ac Adeiladu 2016 y Tribiwnlys Contractau ar y Cyd gyda diwygiadau.

 

CYTUNWYD:

 

(i)    I ganiatáu i Wates Residential symud ymlaen i gam 2/3 o raglen ddatblygu Cartrefi Caerdydd a nodir yn y Cytundeb Datblygu. 

(ii)   Cymeradwyo newidiadau i’r Cytundeb Datblygu a’i amserlenni a chontract adeiladu Dylunio ac Adeiladu 2016 y Tribiwnlys Contractau ar y Cyd wedi’i ddiweddaru yn ôl yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad hwn.