Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth yngl?n â’r hyn y mae cyrff penderfynu'r cyngor wedi'i benderfynu yn ddiweddar.
Neu gallwch ymweld â thudalen penderfyniadau swyddogion ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau y mae swyddogion penodol y cyngor wedi'u.
Gallwch hefyd edrych ar grynoadau o’n penderfyniadau.
Cofrestrau Penderfyniad / nid Rhybuddion yn cael eu cyfieithu fel mater o drefn, Os oes angen fersiwn Cymraeg cysylltwch รข'r Swyddfa Cabinet ar 02920 872396
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 07/02/2020
Effeithiol O: 18/02/2020
Penderfyniad:
Cytunwyd: i
1. Gytuno ar ddechrau’r broses dendro ar gyfer Dylunio, Cyflenwi, Gosod, a Chynnal a Chadw yr Offer mecanyddol a thrydanol ar gyfer Rheolaeth a Rheoli Traffig Twnel Porth y Frenhines a Gwasanaethau atodol.
2. Hysbysiad Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) i’w gyflwyno er mwyn dechrau’r broses gaffael yn ffurfiol
cytuno ar y meini prawf trosfwaol arfaethedig sef cost 70% ac ansawdd 30%
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 07/02/2020
Effeithiol O: 18/02/2020
Penderfyniad:
Ni chaiff atodiadau 2, 3 a 4 yr adroddiad eu cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraff(au) 4 o Ran 4 a 21 o Ran 5 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Cytunwyd: fod
1. Y Cyngor yn datgan nad oes angen yr eiddo yn bodloni gofynionar y Cyngor mwyach.
2. Y Cyngor i waredu ei fuddiant rhydd-ddaliadol yn Rhodfa Fanwerthu Bishopston Road (rhifau 121,123,125,127,129 a 131), a ddangosir mewn coch ar y cynllun sydd ynghlwm i’r adroddiad mewn cytundeb preifat neu arwerthiant.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 07/02/2020
Effeithiol O: 31/01/2020
Penderfyniad:
CYTUNWYD: bod un o’r llywodraethwyr ychwanegol a benodwyd ym mis Ionawr 2019 yn cael ei enwebu yn Gadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr, yn unol ag Adran 6(3) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/02/2020
Effeithiol O: 18/02/2020
Penderfyniad:
Cytunwyd: bod y Cyfarwyddwr dros Gynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd yn cymeradwyo'r canlynol:
1) y meini prawf gwerthuso a amlinellir yn yr adroddiad
2) Y cyngor i ddechrau ar y broses gaffael ar gyfer y fframwaith hysbysebu a chaniatáu i awdurdodau lleol eraill Cymru ddefnyddio’r Fframwaith. Bydd y tendr yn cael ei rannu’n 4 lot ar wahân at ddibenion hysbysebu. Lot 1 Cylchfannau, Lot 2 polion lamp a biniau sbwriel, Lot 3 ar gerbydau gwaredu gwastraff y cyngor, Lot 4 - ar sgriniau fideo peiriannau talu ac arddangos.