PENDERFYNWYD:
1. bod dogfennau ymgynghori Llywodraeth Cymru ar Reoliadau i sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol ac i sefydlu'r weithdrefn ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol i'w paratoi i Gymru gan y Cydbwyllgorau hynny’n cael eu nodi
2. cymeradwyo'r ymatebion drafft i ddau ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, sydd wedi'u hatodi fel Atodiadau A a B i'r adroddiad; a
3. bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a'r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, i wneud unrhyw ddiwygiadau pellach yn ôl yr angen i ymatebion drafft y Cyngor i'r ymgynghoriadau cyn eu cyflwyno cyn y dyddiad cau, sef 4 Ionawr 2021.