Mater - penderfyniadau

Cynllunio Trefnidiaeth Ysgolion: Ysgolion yr 21fed Ganrif (Band B): Ailddatblygu ac estyn Ysgol Uwchradd Cathays

17/12/2020 - Cynllunio Trefnidiaeth Ysgolion: Ysgolion yr 21fed Ganrif (Band B): Ailddatblygu ac estyn Ysgol Uwchradd Cathays

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion: Ysgolion yr 21ain Ganrif (Band B): Ailddatblygu ac Ehangu Ysgol Uwchradd Cathays

 

PENDERFYNWYD:

 

1.  i awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar y cynigion canlynol

 

·     Ehangu'r ysgol o 1,072 o leoedd (5.5 Dosbarth Mynediad gyda 247 lle yn y chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 Dosbarth Mynediad gyda 250 lle yn y chweched dosbarth) o fis Medi 2021;

·     Disodli adeiladau Ysgol Uwchradd Cathays gyda llety newydd ar safle Canolfan y Maendy ger Ffordd y Goron a Heol y Gogledd;

·     Ymestyn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 16 lle i 50 lle mewn ystafelloedd pwrpasol yn yr adeiladau ysgol newydd;

·     Uwchraddio cyfleusterau cymunedol yn Cathays a Gabalfa drwy sicrhau bod cyfleusterau ysgol llawer gwell ar gael i'w defnyddio ar y cyd â'r gymuned leol ehangach;

·     Darparu lle i'r gymuned leol barhau i gael mynediad i fannau agored oddi ar y ffordd at ddefnydd hamdden anffurfiol.

 

2.  nodi y daw swyddogion ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn ceisio awdurdod i fynd ati i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.