Diweddariad Modelu Cyllideb 2021/22 a Gofynion Ymgynghori
PENDERFYNWYD:
(1) Nodi Sefyllfa’r Gyllideb a ddiweddarwyd ar gyfer 2021/22 adeg y Cam Setliad Dros Dro
(2) Cytuno ar y dull arfaethedig ar gyfer yr Ymgynghoriad ar Gyllideb 2020/21 i nodi y bydd yr ymgynghoriad ffurfiol ar y gyllideb yn dechrau ar 13 Ionawr 2021 ac yn rhedeg tan 10 Chwefror 2021. Bydd canlyniadau’r broses ymgynghori wedyn yn cael eu hystyried gan y Cabinet wrth baratoi eu cynnig cyllideb terfynol ar gyfer 2021/22.
(3) Nodi y bydd y Prif Weithredwr fel Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig yn cyhoeddi’r holl ymgyngoriadau cyflogaeth statudol ac anstatudol angenrheidiol o safbwynt goblygiadau staffio’r cynigion.