PENDERFYNWYD:
1.
cymeradwyo’r rhan y
mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gymryd i gydlynu’r ymdrech i
wella perfformiad ynni eiddo rhent preifat ar draws Cymru; gan
gynnwys gweinyddu’r Cyllid Cartrefi Cynnes.
2.
dirprwyo awdurdod i’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad
â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i geisio
ffynonellau cyllid newydd i gynorthwyo gyda gwella’r sector
rhent preifat a derbyn a gweinyddu’r cyllid ar ran awdurdodau
Cymru.
3. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i amrywio Memorandwm Dealltwriaeth â Rhentu Doeth Cymru sydd yn ei le gydag awdurdodau lleol i adlewyrchu’r newidiadau gofynnol fel a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad.