Mater - penderfyniadau

Ailgomisiynu Gwasanaethau Cymorth Tymhorol a Gofal Cartref

23/01/2020 - Ailgomisiynu Gwasanaethau Cymorth Tymhorol a Gofal Cartref

PENDERFYNWYD:

 

1.   cytuno ar y weledigaeth ar gyfer darparu gofal cartref yng Nghaerdydd a'r model newydd arfaethedig ar gyfer dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr ardal ac ar ganlyniadau, ynghyd â'r cynllun gweithredu 2 flwyddyn.

2.   Awdurdod i gael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet, Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles a'r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, Swyddog Adran 151 y Cyngor a Swyddog Monitro'r Cyngor, i benderfynu ar bob agwedd ar y broses gaffael neu ar ail-gomisiynu gwasanaethau gofal cartref (gan gynnwys gwneud penderfyniadau yngl?n â’r Ymarfer Cost Gofal, cymeradwyo'r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio, ac awdurdodi dyfarnu'r contractau) a’r holl faterion atodol sy'n ymwneud â'r caffaeliad a'r cynigion uchod.