PENDERFYNWYD:
1. nodi’r problemau sydd yn wynebu gwasanaethau sydd yn helpu pobl sengl ddigartref a chytuno ar yr ymateb i’r Pwyllgor Craffu ar Wasanaethau Cymuned ac oedolion parthed y Porth Person Sengl a osodwyd ger bron yn atodiad 2 yr adroddiad
2. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Tai Cynorthwyol a Chymunedau, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet ar gyfer Tai a Chymunedau i fwrw ymlaen ag ail-ffurfio gwasanaethau llety y porth person sengl fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys diweddu rhai contractau.
3. Ei fod i gael ei nodi y ceisir penderfyniad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Pobl a Chymunedau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant i gynnal ymarferiad caffael ar ran Cynghorau Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr i sefydlu gwasanaeth rhanbarthol arbenigol i ddioddefwyr gwrywaidd ar drais domestig a thrais rhywiol.