Mater - penderfyniadau

Ffioedd Rhentu Cartrefi

21/11/2019 - Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd ayyb.) (Cymru) 2019; Trefniadau gweithredu ar gyfer Cyngor Caerdydd a Rhentu Doeth Cymru

PENDERFYNWYD:

 

1.   rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir i orfodi darpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 a diweddaru Cyfansoddiad y Cyngor ynghyd â’r Cytundeb gweithio ar y cyd yn briodol.

 

2.   rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i orfodi darpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 ar ran Cyngor Caerdydd a diweddaru cyfansoddiad y Cyngor yn briodol.

 

Bod Cyngor Caerdydd, fel yr Awdurdod Trwyddedu Sengl ar gyfer Cymru at dibenion  Deddf Tai (Cymru) 2014 yn derbyn awdurdodiad i arfer unrhyw swyddogaethau y 21 awdurdod lleol eraill at ddibenion Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, gan gynnwys (ond heb ei gyfyngu i) gymryd camau gorfodi a chychwyn achosion trosedd yn unol ag adran 19 o’r Ddeddf honno.