Ni fydd Atodiadau A-C yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14, 18 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo’r polisi ar gyfer Dilysu Seiliedig ar Risg fel y’i hatodir yn Atodiad A i’r adroddiad.
2. y bydd y polisi yn dod i rym o 1 Ionawr 2020.
Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Tai a Chymunedau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i adolygu’r polisi yn flynyddol a gwneud newidiadau yn ôl yr angen.