Mater - penderfyniadau

Papur Gwyn Trafnidiaeth ac Aer Glân

23/01/2020 - Papur Gwyn Trafnidaiaeth: Gweledigaeth Trafnidiaeth Caerdydd - 2030

PENDERFYNWYD:

 

1.     Cymeradwyo’r Papur Gwyn – gweledigaeth drafnidiaeth Caerdydd - 2030 sydd wedi'i atodi yn Atodiad 1 i'r adroddiad

2.     Nodir y bydd y Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet, yn cynnal adolygiad o staffio ac adnoddau ac yn asesu gofynion y gweithlu er mwyn sicrhau bod projectau'r Papur Gwyn a'r gwaith o ddatblygu’r Achos Busnes ar opsiynau cyflenwi yn gallu cael ei gyflawni’n ddigonol.

 

3.     Dylid cymeradwyo'r broses o ddatblygu achosion busnes strategol ac amlinellol ar yr opsiynau cyflenwi a dylid dirprwyo'r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, yn amodol ar ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, Aelod Cabinet Cyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, Swyddog a. 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, i ymdrin â phob agwedd o'r broses gaffael (gan gynnwys cymeradwyo'r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio, dechrau'r broses gaffael ac awdurdodi dyfarnu'r contract arfaethedig) a’r holl faterion ategol sy'n ymwneud â'r caffael. 

4.     Ceir adroddiad pellach ar ganlyniadau'r achos busnes amlinellol i gytuno ar unrhyw ymgynghori angenrheidiol a'r camau nesaf i ddatblygu'r achos busnes llawn.

5.     Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, i ymgysylltu â'r Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol a phartneriaid/rhanddeiliaid eraill ar y Papur Gwyn ac achosion busnes ar yr opsiynau cyflenwi.

6.     Mae gweledigaeth drafnidiaeth Caerdydd-2030 yn cael ei chyfeirio at y Cyngor i’w nodi