PENDERFYNWYD:
(1) Nodi Sefyllfa’r Gyllideb a ddiweddarwyd ar gyfer 2020/21 adeg y Cam Setliad Dros Dro
(2) Cytuno ar yr ymagwedd arfaethedig ar gyfer cynigion yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb ar gyfer 2020/21 i gael eu cytuno a’i nodi y bydd yr ymgynghoriad ffurfiol ar y gyllideb yn dechrau ar 19 Rhagfyr 2019 ac yn rhedeg tan 31 Ionawr 2020. Bydd canlyniadau’r broses ymgynghori wedyn yn cael eu hystyried gan y Cabinet wrth baratoi eu cynnig cyllideb terfynol ar gyfer 2020/21.
I’w nodi y bydd y Prif Weithredwr fel Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig yn cyhoeddi’r holl ymgynghoriadau cyflogaeth statudol ac anstatudol angenrheidiol o safbwynt goblygiadau staffio’r cynigion.