Ni chaiff Atodiad 4 yr adroddiad ei gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
CYTUNWYD:
1. cymeradwyo’r strategaeth ddatblygu newydd ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol
2. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i fynd â datblygiad Glannau'r D?r yn ei flaen gan gynnwys gwaredu tir a neilltuo unrhyw dderbyniadau cyfalaf yn unol â’r strategaeth gyllidol a amlinellir yn Atodiad cyfrinachol 4 ac yn amodol ar brisiad annibynnol fel y bo’r angen.
3. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i ddelio â phob agwedd ar gaffael partner masnachol i sefydlu a gweithredu atyniad hamdden newydd yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn a dychwelyd at y Cyngor i'w gymeradwyo'n derfynol.
4. Yn rhan o (iii) uchod, dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i gynnwys gweithrediad allanol DGRhC yn rhan o’r broses gaffael yn unol â’r strategaeth a nodir yn yr adroddiad hwn a dychwelyd at y Cyngor i’w gymeradwyo’n derfynol.