Mater - penderfyniadau

CTY: Darpariaeth Ysgol newydd i wasanaethu rhannau o Bontprennau a Phentref Llaneirwg

21/03/2019 - Darpariaeth Ysgolion Newydd i wasanaethu rhannau o Pontprennau a Llaneirwg

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   Mae'r cynnig i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg gael ei drosglwyddo i safle'r ysgol newydd ar y datblygiad tai newydd yn Sant Edern (Safle Strategol Cynllun Datblygu Lleol G), yn ehangu o 105 o leoedd i 210 o leoedd ac yn ymestyn ei ystod oedran o 4-11 i 3-11 gan gynnwys meithrinfa ar gyfer 48 o leoedd rhan-amser gael ei nodi

 

2.   nodir y bydd y broses ymgynghori statudol yn cael ei chynnal gan gorff llywodraethu'r ysgol, a dylid cyfarwyddo swyddogion i ddarparu pob cymorth rhesymol yn hyn o beth.

 

3.   cytuniad i’w roi, mewn egwyddor, i ddarparu safle'r ysgol newydd ar y datblygiad tai newydd yn Sant Edern, ar yr amod bod telerau priodol yn cael eu cytuno, gyda chyngor gan Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol; a

 

4.   dylid awdurdodi'r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, i ymateb yn ffurfiol ar ran y Cyngor i'r ymgynghoriad cyhoeddus a gyhoeddwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol maes o law.