PENDERFYNWYD:
1. nodi canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar yr Opsiwn a Ffefrir fel y nodir ym mharagraffau 66-71 yr adroddiad
2. cymeradwyo Cynllun Terfynol Astudiaeth o Ddichonoldeb Ansawdd Aer (Achos Busnes Llawn) i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru dim hwyrach na 30 Mehefin 2019
3. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i wneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i’r Cynllun Terfynol, ar yr amod nad oes unrhyw newidiadau sylfaenol i’r Opsiwn a Ffefrir y cytunwyd arno yn digwydd o ganlyniad i’r diwygiadau.
4. cymeradwyo’r Strategaeth Aer Glân a’r Cynllun Gweithredu ehangach i’w cynnwys fel Atodiad C yn y Cynllun Terfynol
5. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i asesu’r ymarferoldeb o weithredu Ardal Allyriadau Isel ar gyfer Bysus a/neu Gynllun Partneriaeth Ansawdd.
6.
7. cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyluniadau cyd-destunol o Gynlluniau Gwella arfaethedig Canol y Ddinas, sef:
8. Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i ddatblygu a chymeradwyo dyluniad manwl gwaith, gan ystyried adborth i’r ymgynghoriad cyhoeddus a bwrw ymlaen â’r Gorchmynion Rheoli Traffig angenrheidiol.
9. Ystyried cyngor cyfreithiol a chaffael (a’r cafeatau a nodir ym mharagraff 135 o’r adroddiad) a rhoi cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i Dendro contractwr ar y cynlluniau canlynol;
a) Gorllewin Canol y Ddinas Cam 1
b) Gogledd Canol y Ddinas Cam 1
c) Dwyrain Canol y Ddinas Cam 1
9. Adroddiad pellach ar Gynlluniau Canol y Ddinas i’w dderbyn cyn dyfarnu contract.