Mae Atodiad 10 wedi’i eithrio o gael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth yn ôl paragraff 16 Deddf Llywodraeth Leol Act 1972
PENDERFYNWYD:
1. nodi’r ymatebion a ddaeth i law yn ystod yr ymarfer ymgysylltiad cyhoeddus ynghylch y cynnig i roi adeilad ysgol newydd sbon i Ysgol Uwchradd Fitzalan
2. dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes mewn ymgynghoriad â’r Aelodau Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, a Chyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol, a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau) i bennu holl agweddau ar y broses gaffael (gan gynnwys, er mwyn osgoi amheuaeth, llunio’r holl ddogfennaeth sy’n ymwneud â chaffael a’r meini prawf dethol a dyfarnu, dechrau’r broses gaffael tan ddyfarnu’r contractau) ar gyfer yr ysgol newydd sbon.