Adroddiad y Gyllideb 2019/20
Ni fydd Atodiadau 10(c) yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
wedi ystyried sylwadau Swyddog Adran 151 mewn perthynas â’r gyllideb ac addasrwydd arian wrth gefn fel sy’n angenrheidiol dan Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003, ac wedi ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r Ymgynghoriad ar y Gyllideb, mae’r Cabinet yn argymell bod y Cyngor yn gwneud y canlynol:
1.0 Gymeradwyo’r cyllidebau Refeniw, Cyfalaf, Cyfrif Refeniw Tai gan gynnwys yr holl gynigion a chynyddu’r Dreth Gyngor gan 4.9% fel y nodir yn yr adroddiad hwn a bod y Cyngor yn cadarnhau'r termau canlynol.
2.0 Nodi y cyfrifodd y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2018 y nifer canlynol o anheddau ar gyfer blwyddyn 2019/20 yn unol ag Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-
a) 145,499 – sef y swm a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Llinell Waelod y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, fel isafswm y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.
b) Llysfaen
c) 2,409 Pentyrch 3,280
Radur 3,783
Sain Ffagan 1,423
Pentref Llaneirwg 1,828
Tongwynlais 817
y rhifau a ddosbarthwyd yn unol â Rheoliad 6 fel swm llinell waelod Treth Gyngor y flwyddyn ar gyfer anheddau yn rhannau’r ardal y mae eitemau arbennig yn gysylltiedig â nhw.
2.1 Cytuno bod y symiau canlynol bellach yn cael eu cyfrif gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar gyfer y flwyddyn 2019/20 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Gyllid Llywodraeth Leol 1992:-
a) Cyfansymu’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) i (d) (gan gynnwys praeseptau’r Cyngor Cymuned sy’n £396,847).
b) £1,026,046,847
c) Cyfansymu’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) a (c).
£405,161,000
d) Y swm y mae’r cyfanswm yn 2.1(a) yn fwy na’r cyfanswm yn 2.1(b) uchod a gyfrifwyd yn unol ag Adran 32(4) fel y gofyniad ar gyfer cyllideb y flwyddyn.
£620,885,847
e) Cyfansymu’r symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y cânt eu talu yn ystod y flwyddyn i Gronfa’r Cyngor mewn perthynas â’r Grant Cynnal Refeniw, cynllun gostyngiad treth gyngor, Ardrethi Annomestig wedi’u hailddosbarthu.
£444,629,480
f) Y swm ar 2.1(c) uchod ond gan dynnu swm 2.1(d) (net y swm ar gyfer rhyddhad diamod o £350,000), i gyd wedi’u rhannu gan y swm ar 2.0(a) uchod, wedi’i gyfrifo yn unol ag Adran 33(1) fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.
g) £1,213.80
h) Cyfansymu swm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1).
i) £396,847
j) Swm 2.1(e) uchod ond gan dynnu'r canlyniad a geir trwy rannu swm 2.1(f) uchod gan swm 2.0(a) uchod, yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer aneddiadau yn y rhannau hynny o’r ardal lle nad oes eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.
k) £1,211.07
l) Y symiau a geir trwy ychwanegu at swm 2.1(g) uchod y symiau o eitemau arbennig sy’n berthnasol i anheddau yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor a nodir isod, wedi’u rhannu ym mhob achos gan swm 2.0(b) uchod, wedi’u cyfrifo’n unol ag Adran 34(3) fel symiau sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o’r ardal lle y mae eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.
£
Llysfaen 1,227.26
Pentyrch 1,258.33
Radur 1,243.94
Sain Ffagan 1,225.48
Pentref Llaneirwg 1,231.31
Tongwynlais 1,236.77
i) Y symiau a geir trwy luosogi symiau 2.1(g) a 2.1(h) uchod gan y rhif sydd, yn y gyfran a nodir yng Ngorchymyn y Dreth Gyngor (Bandiau Gwerthuso) 2003, yn berthnasol i anheddau a restrir mewn band gwerthuso penodol wedi’i rannu gan y rhif sydd, yn y gyfran hon, yn berthnasol i aneddiadau a restrir ym mand gwerthuso D wedi’i gyfrif yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf fel y symiau i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chategorïau anheddau a restrir mewn bandiau gwerthuso gwahanol.
|
2.2 Nodi bod y Comisiynydd Heddlu a Throseddu dros Dde Cymru, ar gyfer y flwyddyn 2019/20, wedi dweud bod y symiau canlynol mewn praeseptau wedi’u cyhoeddi i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 Deddf Gyllid Llywodraeth Leol 1992, ar gyfer pob un o’r categorïau anheddau a ddangosir isod:-
BANDIAU GWERTHUSO
|
2.3 Wedi cyfrif y cyfanswm ym mhob achos y symiau ar 2.1(i) a 2.2 uchod, mae Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 drwy hyn yn pennu’r symiau canlynol fel symiau’r Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn 2019/20 ar gyfer pob un o’r categorïau anheddau a ddangosir isod:-
Rhan o Ardal y Cyngor BANDIAU GWERTHUSO
|
2.4 Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i wneud taliadau dan Adran 38 Deddf Lywodraeth Leol (Cymru) 1994 o Gronfa’r Cyngor trwy randaliadau cyfartal ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis o fis Ebrill 2019 tan fis Mawrth 2018 mewn perthynas â’r praesept a godwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru sef £37,469,009.
2.5 Cytuno bod y Sêl Gyffredin yn cael ei hatodi i’r Dreth Gyngor ddywededig.
2.6 Cytuno bod y Sêl Gyffredin yn cael ei hatodi i braeseptau ar gyfer Treuliau Iechyd Porthladd ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2019 tan 31 Mawrth 2020 sef
£
Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd 113,864
Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg 12,736
2.7 Cytuno bod hysbysiadau o greu’r Trethi Cyngor dywededig wedi’u llofnodi gan y Prif Weithredwr yn cael eu hysbysebu yn y wasg leol dan Adran 38(2) Deddf Gyllid Llywodraeth Leol 1992.
3.0 Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 2003, Rheoliadau Awdurdod Lleol (Arian Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 a’r diwygiadau olynol a Chod Cynghori CIPFA a Chodau Ymarfer Rheoli’r Trysorlys:
(a) Cymeradwyo Strategaeth Gyfalaf 2019/20
(b) Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2019/20 ac awdurdodi’r Swyddog Adran 151 i godi arian y mae ei angen i ariannu gwariant cyfalaf trwy fenthyg dros dro neu’n hirdymor
(c) Cymeradwyo’r Dangosyddion Cynghori ar gyfer 2019/20 i 2023/24, yn cynnwys yr uchafswm benthyg fforddiadwy
(d) Dirprwyo awdurdod i'r Swyddog Adran 151 symud rhwng yr uchafsymiau ar gyfer benthyg a’r dyledion hirdymor mewn unrhyw flwyddyn a symud dyddiadau cynlluniau yn y Rhaglen Cyfalaf ymlaen neu'n ôl.
(e)
(f) Cymeradwyo’r Polisi Darpariaeth Refeniw Lleiaf ar gyfer 2019/20.
4.0 cymeradwyo’r Fframwaith Cyllidol yn yr adroddiad hwn, yn cynnwys yr Amlen Fforddiadwy a fanylir yn yr adroddiad hwn. Bydd hyn yn amodol ar gymeradwyo achos busnes dros yr arena dan do a goblygiadau ariannol penderfyniad felly o ran y goblygiadau fforddiadwyedd a benthyg a nodir.
5.0 Cynnal y Cynllun Gostwng y Dreth Gyngor fel y nodir yn yr adroddiad.
Materion i’r Cabinet Benderfynu
PENDERFYNWYD: wedi ystyried sylwadau Swyddog Adran 151 mewn perthynas â’r gyllideb ac addasrwydd arian wrth gefn fel sy’n angenrheidiol dan Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003, ac wedi ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r Ymgynghoriad ar y Gyllideb:
6.0 Cymeradwyo ffioedd a chostau fel y nodir yn Atodlen 12(a) a 12(c) yr adroddiad hwn.
7.0 Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr perthnasol mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad i newid neu gyflwyno ffioedd a chostau newydd yn ystod y flwyddyn.
8.0 codi rhenti holl anheddau’r Cyfrif Refeniw Tai (yn cynnwys hosteli a garejys) gan 2.4%, wedi ystyried canllaw LlC.
9.0 cymeradwyo’r holl gostau gwasanaeth a ffioedd rheoli ar gyfer lesddeiliaid fel y nodir yn Atodlen 10(b).
10.0 pob cynnydd rhent Cyfrif Refeniw Tai o 1 Ebrill 2019 ymlaen.
11.0 nodi’r gwaith a wnaed i godi ymwybyddiaeth o wydnwch ariannol y Cyngor a chymeradwyo’r camau a gymerwyd yn y gyllideb i wella’r sefyllfa hon.
12.0 cydnabod yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor fel y nodir yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig a nodi’r cyfleoedd ar gyfer arbed arian dros y tymor canolig.