Cynghorwyr a chyfarfodydd
- Cabinet
- Calendr cyfarfodydd
- Pwyllgorau
- Cynghorau Plwyf
- Cyfansoddiad Cyngor
- Cynghorwyr
- Penderfyniadau
- Canlyniadau Etholiadau
- Cynlluniau Gwaith i’r Dyfodol
- Llyfrgell
- Cyfarfodydd
- Cyrff Allanol
- Cofrestrau
- Cydnabyddiaeth
- Craffu
- Grwpiau Holl Bleidiau’r Cyngor
- Chwilio Dogfennau
- Tanysgrifiwch am ddiweddariadau
- Gweddarlleidiadau
- Eich ACau
- Eich ASau
- Eich ASau Ewropeaidd
- Beth sy'n newydd
Manylion Pwyllgor
Panel Craffu COVID-19
Cylch gwaith
Cylch Gorchwyl
a) Sefydlu panel craffu COVID-19 yn cynnwys y pum Cadeirydd Craffu.
b) Bydd y Panel yn gyfrifol am graffu ar swyddogaethau'r Cyngor, yn ogystal â'r gwaith a wneir gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a'i effaith ar y gymuned leol.
c) I ddechrau, bydd y Panel ar waith tan 30 Medi 2020, a chaiff ei gyfnod a'i gylch gwaith eu hadolygu yn gyson. Bydd angen i'r Cyngor llawn gytuno ar unrhyw newidiadau.
d) Bydd y panel yn:
i) Cwrdd o bell pan fo angen, a chaiff pob cyfarfod ei gofnodi ar gyfer ei lanlwytho wedyn neu ei ffrydio'n fyw i wefan y Cyngor er mwyn sicrhau bod y cyfarfodydd ar gael i'r cyhoedd.
ii) Gwneud gwaith craffu cyn penderfynu ar holl benderfyniadau'r Cabinet a dylai pob aelod o'r Panel gysylltu'n anffurfiol ag aelodau ei bwyllgor ei hun i sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried.
iii) Ystyried unrhyw graffu a wnaed yn flaenorol ac sy'n berthnasol i benderfyniad y Cabinet.
iv) Ceisio rhagor o wybodaeth neu eglurhad gan Ddeilydd Portffolio Aelodau'r Cabinet ac Uwch-swyddogion perthnasol yn ystod y cyfarfodydd o bell.
v) Rhoi gwybod i'r Cabinet yn ysgrifenedig am argymhellion craffu cyn penderfynu'r Panel ar gyfer pob penderfyniad gan y Cabinet.
vi) Coladu unrhyw bryderon am fywyd yn gysylltiedig â COVID-19 a nodwyd gan aelodau'r ward er mwyn eu huwchgyfeirio at y Cabinet.
e) Cworwm Tri aelod ydy cworwm y Panel.
f) Dirprwyo Gellid penodi Aelodau i gymryd lle rhai eraill yn unol â Rheol Gweithdrefn Penodi Aelodau Dirprwyol.
g) Cadeirydd - Caiff Cadeirydd y Panel ei benodi gan y Cyngor. Yn absenoldeb y Cadeirydd, bydd y Panel yn ethol un o'i Aelodau i gadeirio cyfarfod.
Aelodaeth
I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.