Manylion Pwyllgor

Awdurdod Tranfnidiaeth Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Cylch gwaith

SefydlwydAwdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac eraill, fel is-bwyllgor gan Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i hwyluso’r Fargen Ddinesig drwy gydgysylltu cynllunio a buddsoddi mewn trafnidiaeth ledled y rhanbarth.

Mae datblygu ac integreiddio system drafnidiaeth newydd yn chwarae rôl hanfodol gyda thrawsnewidiad economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ei bod hi’n hanfodol ar gyfer cysylltu cymunedau, ac fe fydd yn galluogi unigolion i deithio.  Gall y system drafnidiaeth sydd wedi’i gwella yn y Brifddinas-Ranbarth hefyd ddod â chyfleoedd dichonol i ardaloedd newydd i gael rhagor o ddatblygu ac ehangu economaidd.

Mae gan Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gadeirir gan Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David, rôl allweddol yn cynghori Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar strategaethau a argymhellir i gyflawni amcanion trafnidiaeth yn y rhanbarthMae’n gweithio’n agos ag, ac yn cefnogi awdurdodau lleol mewn unrhyw gydweithrediad yn gysylltiedig â thrafnidiaeth ac mae’n cyfrannu arbenigedd ynghylch trafnidiaeth pan fo angen.

Uno’r prif flaenoriaethau o ran cael gwell system drafnidiaeth yw darparu Metro De Cymru.  Mae yna £738 miliwn o gronfa’r Fargen Ddinesig wedi’i neilltuo o flaen llaw ar gyfer y prosiect, fydd yn cael ei rannu rhwng rhaglen Trydaneiddio Leiniau’r Cymoedd a chynllun ehangach Metro De CymruBydd yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru yn cynnal y prif gyfrifoldebau am y ddau.  I gael mwy o wybodaeth am Fetro De-ddwyrain Cymru, ewch i Trafnidiaeth Cymru.