English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Datblygu'r Ystad Ysgol - Adroddiad Drafft y Cabinet (i’w ddilyn)

(a)          Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) yn bresennol ac mae’n bosibl y bydd hi am wneud datganiad.

 

(b)       Bydd Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Jackie Turner, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg a Dysgu Gydol Oes, yn cyflwyno'r adroddiad ac yn ateb cwestiynau’r Aelodau;

 

(c)           Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

(d)       Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Janine Nightingale (Pennaeth Trefniadaeth, Mynediad a Chynllunio Ysgolion) i’r cyfarfod.  

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad, lle y cyfeiriodd at yr adolygiad o'r ystâd ysgol a'r heriau a wynebir ar hyn o bryd; y pwysau cynyddol ar ysgolion uwchradd; yr angen i ddatblygu darpariaeth er mwyn bodloni Anghenion Dysgu Ychwanegol; a’r Cynllun Datblygu Lleol a’r safleoedd tai mawr.

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, ceisio eglurhad pellach neu wneud sylwadau am y wybodaeth a dderbyniwyd.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  • Ceisiodd aelodau eglurder ynghylch pa un a fydd cynllun cynnal a chadw gwarantedig ar waith ar gyfer ysgolion newydd-adeiledig o gofio am yr anawsterau o ran cynnal a chadw a wynebwyd mewn nifer o ysgolion, a rhoddwyd gwybod iddynt yr ymdrinnir â hyn i ryw raddau yn rhan o gyllid Banc B. Mae’n rhaid blaenoriaethu cynnal a chadw yr ystâd ysgol.

 

  • Rhoddwyd gwybod i aelodau yr ymdrinnir ar hyn o bryd â’r gordanysgrifio a ragwelir o leoedd ysgol uwchradd erbyn mis Medi 2019 – caiff ysgolion newydd eu hadeiladu, efallai y bydd capasiti mewn gwahanol ardaloedd ysgol a lle y mae ysgolion yn llawn ar hyn o bryd, efallai bydd angen rhoi mesurau dros dro ar waith.

 

  • Gofynnodd aelodau am wybodaeth am ddifrifoldeb y sefyllfa o ran lleoedd ysgol ar ôl mis Medi 2019 a rhoddwyd gwybod iddynt, er y bu newidiadau mawr yn y garfan ysgol gynradd; er bod 3100 wedi gadael ysgol uwchradd eleni a 4300 wedi ymuno, nid yw’r ffigwr hwnnw wedi newid ers y llynedd. Cynllunnir adeiladu ysgolion uwchradd a chynradd ar gyfer yr ardaloedd lle y cynllunnir datblygiadau tai newydd, er enghraifft bydd gan y datblygiad arfaethedig yn ardal Radur ysgol uwchradd newydd a 5 ysgol gynradd newydd.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod, unwaith y bydd disgyblion yn rhan o'r system, gellir olrhain y niferoedd a’u rhagamcanu, fodd bynnag, mae gan Gaerdydd gyfradd uchel o dderbyniadau yn ystod y flwyddyn.  Rhagwelir hefyd y bydd angen 290 o leoedd ychwanegol i ddisgyblion sydd â chyflyrau sbectrwm awtistig, anghenion dysgu cymhleth, ac anghenion ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.

 

  • Rhoddwyd gwybod i aelodau y caiff adroddiad pellach ei baratoi i'r Cabinet ar ôl cadarnhau'r trefniadau cyllido a fydd yn mynd i'r afael â'r pryderon ynghylch darpariaeth ar gyfer y rhai hynny ag anghenion dysgu ychwanegol ac unrhyw addasiadau i ddarpariaeth bresennol.  

Nododd y Cyfarwyddwr fod darpariaeth ADY yn rhywbeth y mae angen mynd i’r afael â hi cyn gynted â phosibl, ac yn enwedig yn ystod y flwyddyn academaidd hon. 

 

  • Nododd aelodau y bydd natur a swm y cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael erbyn diwedd eleni

 

  • Ceisiodd aelodau gwybodaeth am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC) a rhoddwyd gwybod iddynt ei fod wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru fel ffordd wahanol o gyllido Band B. Rhoddwyd gwybod i aelodau y byddai llywodraethu’r model hwnnw yn allweddol; mae’n ffordd ddrud i’r sector cyhoeddus adeiladu ysgolion newydd a byddai’n rhaid i unrhyw ysgol weithredu at gapasiti llawn, fwy neu lai, drwy gydol oes yr ysgol. Yr hyn a fyddai’n well i Gaerdydd fyddai'r dewis cyfalaf o gofio am y pryderon logistaidd o ran MBC, yn enwedig pa mor gyflym y gellid adeiladu ysgolion.  

 

  • Ymholodd aelodau am y prognosis ar gyfer y 3 ysgol cyflwr Cat D; Ysgolion Uwchradd Cantonian, Fitzalan a Willows a rhoddwyd gwybod iddynt fod yna ymrwymiad i sicrhau nad oes unrhyw ysgol Cat D yng Nghymru. Fodd bynnag, cydnabyddir na chaiff ysgolion newydd eu hadeiladu nes 2021, os cânt eu hariannu drwy’r dull cyfalaf Band B.  Felly, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’n rhaid bod yr ysgolion yn ddiogel ac yn cydymffurfio.  Mae £5m wedi’i wario ar yr ysgolion hynny er mwyn sicrhau'r uchod, ac erbyn hyn ceir rheolwyr ystâd wedi'u cyd-ariannu yn yr ysgolion y'u hystyrir fwyaf mewn perygl.  Bydd deialog agored a diweddariadau cyson ar gyflwr yr adeiladau hynny.  Rhagwelir y byddai angen rhagor o gyllid.  Nododd aelodau y bydd yr ysgolion Cat D yn cael eu dymchwel yn y pen draw.

 

  • Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r aelodau na ellir gwneud penderfyniadau am ysgolion newydd ar gyfer yr ardaloedd hynny hyd nes bod sicrwydd ynghylch cyllid, y raddfa a'r llwybr cyllido.

 

  • Ymholodd aelodau a oes mwy o le i fod yn fwy uchelgeisiol ynghylch darpariaeth Gymraeg.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod fod yna ymrwymiad i ehangu darpariaeth Gymraeg, ac yn sicr mae hynny wedi digwydd drwy Fand B. Ar hyn o bryd, mae 86% o leoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg wedi’u cymryd, sy’n uwch nag ysgolion cyfrwng Saesneg.

 

  • Caiff mesurau dros dro eu hystyried wrth fynd ymlaen er mwyn mynd i’r afael â’r problemau o ran lleoedd ysgol. Ymholodd aelodau ba mor greadigol y mae’r mesurau hynny’n debygol o fod a pha un a allai MBC fynd i'r afael â’r problemau cynnal a chadw. Rhoddwyd gwybod i aelodau hyd oni chaiff y sefyllfa ariannu, y math a’r swm, ei chadarnhau, ni ellir fformiwleiddio unrhyw gynlluniau ar gyfer unrhyw fesurau dros dro manwl. Ni fydd cynlluniau MBC yn denu cwmnïau oni bai eu bod yn berchen ar y ddarpariaeth – mae’n ffordd o sicrhau adeiladau newydd.

 

  • Gofynnodd aelodau i Swyddogion sut, yn eu barn nhw, y gallu’r broses Graffu hon helpu i gefnogi’r daith hon, a rhoddwyd gwybod iddynt nad yw addysg yn gêm wleidyddol; mae angen dadl agored a thryloyw yn enwedig ynghylch y penderfyniadau buddsoddi anodd y mae angen eu gwneud wrth fynd ymlaen.

 

CYTUNWYD – bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn cyfleu sylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.