Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. wedi ystyried crynodeb yr ymatebion a dderbyniwyd yn rhan o’r broses ymgynghori, cymeradwyo strwythur Haen 1 a Haen 2 newydd yr Uwch Dîm Rheoli fel y nodir yn Atodiad 3 yr adroddiad a manylion arfaethedig am wasanaethau yn rhan o bob rôl cyfarwyddwr fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad.
2. cyfeirio’r datganiad dyletswyddau y mae ei angen ar gyfer swyddi newydd; y cymwysterau a'r nodweddion angenrheidiol i'w ceisio yn y person wedi penodi; y telerau ac amodau a thaliad cydnabyddiaeth y swyddi newydd at Bwyllgor Amodau Cyflogaeth y Cyngor ar 22 Tachwedd 2017 i benderfynu arnynt hwy fel sy’n briodol;
3. cyfeirio’r cynnig i greu swydd Cyfarwyddwr Pobl a Chymunedau Corfforaethol newydd a hysbyseb y swydd at y Cyngor Llawn ar 30 Tachwedd 2017; a
4. Yn amodol ar argymhelliad (3) uchod, dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i weithredu strwythur Haen 1 a Haen 2 yr Uwch Dîm Rheoli ac i ddyrannu adnoddau rheolaethol yn ystod y broses bontio, fel sy’n briodol, yn unol ag egwyddorion fel y nodir yn yr adroddiad hwn.
Cofnodion:
Wrth ystyried yr eitem hon, nid oedd Uwch Swyddogion (ac eithrio’r Prif Weithredwr) yn bresennol
Derbyniodd y Cabinet gynigion ar fodel Uwch Dîm Rheoli wedi’i ddiwygio y ymgynghorwyd arno gyda chyflogeion, Aelodau ac Undebau Llafur. Gofynnwyd hefyd i gynghorwyr allanol yn y gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau digidol wneud sylwadau. Yn dilyn yr ymgynghoriad cynigiwyd cadw’r swydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gwasanaethau Plant, yn amodol ar adolygiad.
PENDERFYNWYD:
1. wedi ystyried crynodeb yr ymatebion a dderbyniwyd yn rhan o’r broses ymgynghori, cymeradwyo strwythur Haen 1 a Haen 2 newydd yr Uwch Dîm Rheoli fel y nodir yn Atodiad 3 yr adroddiad a manylion arfaethedig am wasanaethau yn rhan o bob rôl cyfarwyddwr fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad.
2. cyfeirio’r datganiad dyletswyddau y mae ei angen ar gyfer swyddi newydd; y cymwysterau a'r nodweddion angenrheidiol i'w ceisio yn y person wedi penodi; y telerau ac amodau a thaliad cydnabyddiaeth y swyddi newydd at Bwyllgor Amodau Cyflogaeth y Cyngor ar 22 Tachwedd 2017 i benderfynu arnynt hwy fel sy’n briodol;
3. cyfeirio’r cynnig i greu swydd Cyfarwyddwr Pobl a Chymunedau Corfforaethol newydd a hysbyseb y swydd at y Cyngor Llawn ar 30 Tachwedd 2017; a
4. Yn amodol ar argymhelliad (3) uchod, dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i weithredu strwythur Haen 1 a Haen 2 yr Uwch Dîm Rheoli ac i ddyrannu adnoddau rheolaethol yn ystod y broses bontio, fel sy’n briodol, yn unol ag egwyddorion fel y nodir yn yr adroddiad hwn.
Dogfennau ategol: