English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Gwybodaeth am Reoli Perfformiad y Gwasanaethau Plant – Adroddiad Chwarter 1

·         Bydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd) yn bresennol ac yn dymuno gwneud datganiad o bosibl;

 

·         Bydd Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) a’i swyddogion yn cyflwyno’r adroddiad a byddant ar gael i ateb unrhyw gwestiynau allai fod gan Aelodau;

 

·         Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

·         Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaethau Plant yn nodi data perfformiad yn amlinellu cynnydd yn erbyn ymrwymiadau ar gyfer y chwarter yn dod i ben 30 Mehefin 2017. Cynghorwyd Aelodau fod datblygu parhaol Fframwaith Rheoli Perfformiad Caerdydd wedi golygu bod y broses fonitro a gwerthuso bellach yn unol â’r ymrwymiadau sydd yn y Cynllun Corfforaethol a’r dangosyddion perfformiad wedi’u gosod i gynorthwyo sefyllfa berfformiad cyffredinol y Cyngor.  Atodwyd y data perfformiad yn ymwneud â’r Gwasanaethau Plant ar yr adroddiad.

 

Rhodd yr adroddiad drosolwg o berfformiad y gwasanaeth, gan gynnwys methu sydd ar y gweill yn erbyn amcanion y Cynllun Corfforaethol.

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i ystyried yr adroddiad a gwneud sylwad am hyn, codi cwestiynau neu cheisio eglurder am y wybodaeth a roddwyd.   Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·         Nododd Aelod y gwelliant o ran ymgysylltu â chymunedau ffydd wedi cyfeirio atynt yn yr adroddiad. 

Dywedodd swyddogion, er bod cynnydd wedi bod gyda grwpiau ffydd, roedd mosgiau a madrasas yn flaenoriaeth o ganlyniad i nifer enfawr y plant oedd yn mynd iddynt.

·         Gofynnodd Aelodau a oedd unrhyw gynlluniau i recriwtio gweithwyr cymdeithasol o gymunedau BAME. 

Nododd swyddogion eu bod yn ceisio gweithwyr cymdeithasol o bob cefndir.  Byddai digwyddiad mabwysiadu/maethu gyda’r bwriad o ddenu gofalwyr maeth o gymunedau BAME yn cael ei gynnal yn y dyfodol agos.

·         Gofynnwyd i swyddogion esbonio pa waith rheoli cyllideb sy’n cael ei wneud. 

Dywedodd swyddogion ei bod yn anodd rheoli gwariant disgwyliedig.  Gwneir penderfyniadau i gynnwys plant sydd mewn perygl ar lefel Rheolwr Gweithredol.  Yn ystod adolygiad diweddar o 40 achos, roedd gan bob achos rhesymau dros gynnwys y plentyn.  Mae angen diogelu plant, ond caiff dewisiadau eraill eu harchwilio.  Mae achosion lle caiff plant eu hamddiffyn yn straeon llwyddiant.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.