· Bydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd) yn bresennol ac yn dymuno gwneud datganiad o bosibl;
· Bydd Tony Young (Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cymdeithasol), Irfan Alam (Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Gwasanaethau Plant), Jo-Anne Phillips (Rheolwr Project) a Marisa Moon (Rheolwr Tîm, Derbyn ac Asesu) yn bresennol ac ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan yr Aelodau;
· Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;
· Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.
Cofnodion:
Yn rhan o Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2017-18, mae Aelodau wedi gofyn yn flaenorol am adroddiad briffio ar weithredu Arwyddion Diogelwch yng Nghyngor Caerdydd. Mae Arwyddion Diogelwch yn fframwaith integredig ar gyfer Gwasanaethau Plant sy’n nodi egwyddorion ar gyfer arfer; disgyblaethau ar gyfer ymarferwyr; ystod offer ar gyfer asesu a chynllunio , penderfynu ac ymgysylltu â phlant a theuluoedd; a disgrifio’r prosesau y mae’r gwaith yn cael ei wneud gyda theuluoedd a phlant.
Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad yn rhoi trosolwg o’r fframwaith Arwyddion Diogelwch a chrynodeb o’r tri phrif egwyddor, neu golofn, a ddefnyddir i fynd i’r afael â phrif heriau’r gwaith, sef: Mae gweithio mewn perthnasau’n hollbwysig; Meddwl yn Feirniadol; ac Ar Sail Profiad Bob Dydd.
Yng Nghaerdydd, mewn ymateb i’r heriau sy’n wynebu arfer gwaith cymdeithasol, dechreuodd y Gwasanaethau Plant ar weithredu fframwaith risg unigol trwy fabwysiadu’r model Arwyddion Diogelwch, a fyddai’n galluogi’r gwasanaeth i weithio tuag at weledigaeth strategol ar sail atal a lleihau’r angen am ymyraethau statudol. Cytunwyd y byddai dull project yn cael ei ddefnyddiol i ymwreiddio’r fframwaith ym mhob rhan o’r gwasanaeth. Sefydlwyd Tîm Project i weithio ochr yn ochr ag ymgynghorydd allanol Arwyddion Diogelwch a lluniwyd cynllun gweithredu.
Yn ogystal, cytunwyd creu gr?p llywio er mwyn datblygu ffurfiau a phrosesau mewnol a fyddai’r cynorthwyo orau i weithredu Arwyddion Diogelwch. Yn rhan o aelodaeth y gr?p llywio, roedd staff o bob rhan o’r gwasanaeth.
Dywedwyd wrth Aelodau fod Arwyddion Diogelwch yn canolbwyntio ar gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel. Rhagwelir y caiff ei weithredu'n llwyddiannus os caiff arfer gwaith cymdeithasol ei newid yn gyfan gwbl a chyda ymrwymiad i gadw teuluoedd ynghyd trwy reoli a lleihau risgiau. Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud ond mae sawl her i'w gweld o hyd.
Croesawodd y Cadeirydd Graham Hinchey, Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd; Irfan Alam, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cynorthwyol; Jo-Anne Phillips (Rheolwr Projectau; a Marissa Moon (Rheolwr Tîm, Derbyn ac Asesu); i’r cyfarfod. Yn dilyn datganiadau byr gan yr Aelod Cabinet a’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol, gwahoddwyd y swyddogion i roi cyflwyniad o’r enw ‘Gweithredu Arwyddion Diogelwch yng Nghyngor Caerdydd’.
Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu cyflwyniad. Cafodd y Pwyllgor gyfle i wneud sylwadau, ceisio eglurder neu chodi cwestiynau ar y wybodaeth a dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:
· Gofynnodd Aelodau a yw’r Gwasanaethau Plant yn parhau i weithio gyda theuluoedd ar ôl i’r achos ddod i ben.
Cadarnhaodd swyddogion nad
yw'r Gwasanaethau Plant yn parhau i weithio gyda nhw ond bod
cynllun diogelwch yn cael ei roi ar waith a bod disgwyliad y byddai
rhanddeiliaid, megis ysgolion neu’r teulu, yn adrodd yn
ôl i’r Gwasanaethau Plant pe bai unrhyw
broblemau’n codi.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol fod staff yn y gwasanaeth wedi ymrwymo i’r dull Arwyddion Diogelwch.
Mae Staff yn dal i wynebu
galwon a heriau o ganlyniad i lwythi achos mawr ac roedd gwaith i
recriwtio ar gyfer swyddi cymdeithasol ychwanegol newydd eu creu yn
parhau.
· Ymwelwyd â phob Tîm Gwaith Cymdeithasol a gwahoddwyd staff i roi enghreifftiau o bwy ydym yn ei drio i wynebu’r heriau.
Derbyniwyd ymateb da a
rhannwyd yr enghreifftiau hynny â phob rhan o’r
gwasanaeth.
· Cefnogodd Aelodau dyheadau’r gwasanaeth ond gofynnon nhw am eglurhad pellach o ran sut y gellid cyflawni’r rhain heb leihau llwythi achos gweithwyr cymdeithasol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr
Cynorthwyol fod capasiti sy’n tyfu yn y gwasanaeth yn
hollbwysig. Derbyniwyd bod angen mwy o
staff a rheolwyr. Fodd bynnag, mae
newidiadau i arferion gwaith hefyd yn angenrheidiol, megis cynnig
mannau myfyrio sydd i fwrdd o'r brif swyddfa. Y nod pennaf yw gwella arfer a lleihau nifer y
plant sy'n derbyn gofal.
· Dywedodd swyddogion y trafodir arferion Arwyddion Diogelwch mewn cyfarfodydd mewnol.
Mae adborth gan staff wedi
bod yn eithriadol gadarnhaol. Mae
strwythurau’n cael eu rhoi ar waith i gefnogi newidiadau a
chynnal y momentwm cadarnhaol.
· Ceisiodd Aelodau eglurdeb yngl?n â goblygiadau cyfreithiol y newidiadau.
Dywedodd y Cyfarwyddwr
Cynorthwyol fod y Gwasanaethau Plant wedi ymgysylltu ag
asiantaethau eraill. Mae barnwr yn
gyfarwydd â’r fframwaith Arwyddion Diogelwch, ac er eu
bod yn sgeptig, mae rhywfaint o adborth cadarnhaol wedi’i
dderbyn. Gofynnwyd i Aelodau nodi bod
sawl achos amddiffyn plant lle nad yw’r dull Arwyddion
Diogelwch yn briodol ar u cyfer ac y caiff y gweithdrefnau cyfredol
eu defnyddio.
· O ran yr astudiaeth achos y cyfeirir ati yn y cyflwyniad, nododd Aelodau fod y plentyn wedi bod yn gysylltiedig â'r Gwasanaethau Plant ers 13 blynedd, gan gynnwys cau achosion, cyn i'r achos yma gael ei gau
Gofynnodd Aelodau beth oedd
yn wahanol am yr achos hwn ac a oedd angen o hyd am ymwybyddiaeth
barhaol o'r achos. Dywedodd y
swyddogion nad yw’r achos wedi'i gau yn y ffordd
'draddodiadol'. Cynhelir cyfarfod ac
mae rhwydweithiau cymorth yn cael eu rhoi ar waith. Os yw’r cynllun diogelwch yn aflwyddiannus
mae disgwyliad y rhoddir gwybod i’r Gwasanaethau
Plant.
· Gofynnodd Aelodau a oedd unrhyw gynlluniau i ail-drafod penderfyniadau a rhoi'r fframwaith arwyddion diogelwch ar waith.
Dywedodd swyddogion nad oes
atebolrwydd lle caiff plant eu mabwysiadu. Mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i sefydlu tîm
ymroddedig i gyflawni gorchmynion gofal trwy ddefnyddio’r
dull Arwyddion Diogelwch.
Gwnaethpwyd yr Aelod Cabinet ddatganiad cau. Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oes modd cuddio o nifer y plant sy'n cael eu cyflwyno. Er bod hyn yn cyflwyno anawsterau cyllidebu, mae'r canlyniad gorau ar gyfer y plant hynny'n hollbwysig. Bydd angen amynedd cyn i nifer y plant sy'n derbyn gofal leihau.
CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.
Dogfennau ategol: