English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Perfformiad Dros Dro Ysgolion Caerdydd 2017 ac adroddiad perfformiad Addysg a Gydol Oes Chwarter 1

·         Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) yn bresennol ac mae’n bosibl y bydd hi am wneud datganiad;

 

·         Bydd Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a’i swyddogion yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan Aelodau;

 

·         Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

·         Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y Pwyllgor ddiweddariad ar lafar ar ganlyniadau perfformiad dros dro Ysgolion Caerdydd ar gyfer 2016/17. Cyflwynodd Cyfarwyddwr Addysg hefyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 y Gyfarwyddiaeth ar gyfer 2017/18 cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet ar 21 Medi 2017. Dywedwyd wrth Aelodau fod Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 wedi’i atodi fel Atodiad A at yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd o ran cyflawni'r blaenoriaethau strategaeth wedi'u nodi yng Nghynllun Cyflawni'r Gyfarwyddiaeth 2017-19. Atodwyd Trosolwg o Berfformiad Addysg a Dysgu Gydol Oes yn Atodiad B.

 

Perfformiad Ysgol 2017

 

Derbyniwyd y Pwyllgor gyflwyniad byr ar ddarparu canlyniadau perfformiad.  Cynhwysodd y cyflwyniad ddata ar ganlyniadau Cyfnod Sylfaen; Dangosyddion Craidd Cyfnod Allweddol (CA) 2 a Chyfnod Allweddol 3; Canlyniadau Plant sy’n Derbyn Prydau Ysgol Am Ddim (PYADD) yn erbyn Plant nad ydynt yn Derbyn PYADD yn y Cyfnod Sylfaen, CA2 a CA3; data CA4 a data CA5 dros dro.

 

Crynhoir y prif themâu wedi’u nodi yn y cyflwyniad fel a ganlyn:

 

·         Mae canlyniadau’r Cyfnod Sylfaen ar gyfer Caerdydd yn uwch na chyfartaledd y Consortiwm

·         Canlyniadau Plant sy’n Derbyn Prydau Ysgol Am Ddim (PYADD) yn erbyn Plant nad ydynt yn Derbyn PYADD – cyflawnodd 77% o ddisgyblion sy’n derbyn PYADD y lefel a ddisgwyliwyd o gymharu â 91% o ddisgyblion nad ydynt yn derbyn PYADD

·         Cyflawnodd 89.4% o ddisgyblion CA2 y lefel a ddisgwyliwyd oedd yn  unol â'r cyfartaledd

·         13% oedd y blwch mewn cyflawniad yn CA2 rhwng plant sy’n derbyn PYADD a phlant nad ydynt yn eu derbyn, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru sef 14.3%

·         Bu mân ostyngiad yn nghanlyniadau Mathemateg yn CA3

·         Cyfrifwyd data CA4 dan drefniadau newydd. 

Darparodd y data waelodlin newydd nad oes modd ei chymharu á data 2016.

·         Roedd canlyniadau trothwy Lefel 1 CA4 yn is na chyfartaledd y consortiwm. 

Effeithiodd nifer o ffactorau ar berfformiad.  Bydd Aelodau yn derbyn manylion llawn yn adroddiad perfformiad Ionawr 2018.

·         Roedd canlyniadau CA5 yn dda. 

Perfformiodd bechgyn yn well na ferched am y tro cyntaf.

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i wneud sylwad am hyn, codi cwestiynau neu cheisio eglurder am y wybodaeth a roddwyd.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·         Gofynnodd Aelodau a oedd yn rhesymol fod arholiadau blwyddyn 5 wedi’i marcio’n wahanol eleni. 

Dywedodd swyddogion y cafodd yr arholiadau eu marcio ar ddiwedd cyfnod astudio o 2 flynedd.  Roedd disgyblion yn ymwybodol y byddai’r arholiadau hyn yn cael eu marcio’n wahanol o’r cychwyn.

·         Nododd Aelodau’r data plant sy’n derbyn PYADD yn erbyn plant nad ydynt yn derbyn PYADD a’r adnoddau ychwanegol wedi’u dyrannu i bontio’r bwlch cyrhaeddiad rhwng y ddau gr?p. 

Gofynnodd Aelodau a oedd unrhyw ddata ar gael dan PYADD a fyddai’n ei gwneud yn anos pontio’r bwlch cyrhaeddiad, megis plant gydag anghenion dysgu ychwanegol neu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill.  Er enghraifft, awgrymodd Aelodau y gall sawl ysgol bontio’r bwlch yn well gan fod llai o ddisgyblion Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill yn eu mynychu.  Dywedodd swyddogion fod llawer o ffactorau’n effeithio ar gyrhaeddiad ac mae PYADD yn un o’r rhain.  Mae ysgolion yn dod yn fwy soffistigedig o ran adnabod y materion hyn.

·         Cadarnhaodd swyddogion y bydd data plant sy’n derbyn PYADD yn erbyn plant nad ydynt yn derbyn PYADD ar gael ar sail ysgol unigol yn y dyfodol. 

O’r data hwnnw, bydd yn bosibl asesu pa mor effeithiol y mae grant amddifadedd disgyblion wedi bod.  Bydd gan y Pwyllgor gyfle i ymchwilio i’r materion hyn yn y cyfarfod mis Ionawr 2018.

·         Gofynnodd Aelodau hefyd am ddata ar gyrhaeddiad disgyblion sydd wedi atal hawlio PYADD a manylion pellach am y cynllun gwella addysg heblaw yn yr ysgol.

Adroddiad Perfformiad Chwarter 1

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Addysg Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 Addysg a Dysgu Gydol Oes ar gyfer 2017/18.  Gan gyfeirio at y blaenoriaethau wedi’u nodi yn yr adroddiad, ac yn enwedig, yr angen i wella darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, dywedwyd wrth Aelodau fod lleoliadau y tu allan i Gaerdydd yn gosod pwysau enfawr ar gyllidebau.  Roedd angen brys i ehangu darpariaeth yn y Ddinas.

 

Blaenoriaeth 4 – Sicrhau bod lleoedd ysgol o ansawdd digonol i fodloni’r boblogaeth sy’n tyfu yn y Ddinas – dywedodd y Cyfarwyddwr fod gormod o geisiadau am gyllid Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael eu derbyn.  Mae’r Bwrdd Adnewyddu Asedau wedi’i sefydlu ac mae’n gweithio trwy flaenoriaethau a chyllidebau ar gyfer eleni i fynd i’r afael â materion cyflwr ac addasrwydd yn yr ystâd ysgolion.  Mae fforddiadwyedd yn parhau i fod yn her allweddol gan fod nifer mawr o ysgolion yn y ddinas sydd mewn cyflwr gwael.  Credodd y Cyfarwyddwr fod angen Cynllun Gwella Adnewyddu Asedau.

 

Blaenoriaeth 6 – Gwaith gyda Consortiwm Canolbarth Y De i ddatblygu ymhellach gapasiti’r system ysgolion fel y bydd yn gwella ei hun – dywedwyd wrth Aelodau fod ymdrechion wedi bod i gyflwyno mwy o gysondeb ym 4 consortiwm Cymru.  Awgrymodd y Cyfarwyddwr y gallai newidiadau polisi o’r fath fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

 

Blaenoriaeth 7 – Adeiladu partneriaethau effeithiol rhwng ysgolion, busnesau, y sector gwirfoddol a gwasanaethau cyhoeddus eang a chymunedau i gyfoethogi'r cwricwlwm ysgol a chryfhau llywodraethu ysgol – dywedwyd wrth Aelodau fod llwyddiannau nodedig wedi bod yn erbyn y flaenoriaeth hon, yn enwedig o ran Ysgol Uwchradd Y Dwyrain ac Ysgol Uwchradd Cymunedol y Dwyrain Caerdydd.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan Aelodau’r Pwyllgor.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·         Gofynnodd Aelodau pa heriau sy’n wynebu cyflwyniad Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif Caerdydd. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod angen lleoedd ysgol ychwanegol, cyflwr adeiladau ysgol a gwella darpariaeth ar gyfer pobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol yn sylweddol ar Gaerdydd,

·         Gofynnodd Aelodau i swyddogion sylwi ar recriwtio a chadw athrawon Cymraeg. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, wrth i ddarpariaeth barhau i ymestyn, fod yr angen am niferoedd mawr o athrawon yn parhau i fod yn heriol.  Mae hefyd sawl her mewn ysgolion ffydd, yn enwedig yn y sector Catholig.

·         Cefnogodd Aelodau y fframwaith newydd ar gyfer mesur perfformiad plant sy'n derbyn gofal. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, er ei bod yn rhy gynnar i farnu’r fframwaith, ei fod wedi croesawu canolbwynt ar y gr?p hwn.  Mae ystyriaeth yn cael ei roi i leoli disgyblion mewn ysgolion trwy ddefnyddi’r lifer derbyn plant sy'n derbyn gofal.

·         Mae datblygu Academi Arweinwyr Addysg Cymru wedi cynnig cyfle i arweinwyr addysg ddysgu gan ei gilydd a rhannu arferion. 

Mae rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud o ran cyflwyno agwedd ffurfiol ar gyfer penaethiaid uchelgeisiol.

·         Nododd Aelodau fod Eithriadau Llawn Amser (ELlA) yn y categori ‘coch’ ar gyfer y cyfnod a bod hyn yn berthnasol i un ysgol yn benodol. 

Gofynnodd i swyddogion sylwi.  Nododd swyddogion fod y ELlAau yn ymwneud â dwy ysgol yng ngorllewin y ddinas sydd bellach wedi cau.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod, yn ei farn ef, y gorddefnydd o ELlAau yn wrthgynhyrchiol ond bod amgylchiadau lle mae angen i ddisgyblion eraill gael eu hamddiffyn rhag ymddygiad drwg.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.