English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Cynllun Cyflenwi Lleol Cefnogi Pobl

Penderfyniad:

Cynllun Cyflenwi Lleol Cefnogi Pobl

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo’r Cynllun Cyflenwi a Gwariant Lleol Cefnogi Pobl fel a nodir yn Atodiad A i'r adroddiad

 

2.   nodi'r cynnydd o ran ail-gomisiynu gwasanaethau cam un, a chytuno ar y dull gwahanol mewn perthynas â gwasanaethau cymorth yn ôl yr angen i bobl h?n

3.   cytuno ar y dull cyffredinol arfaethedig o ran ail-gomisiynu gwasanaethau llety a chymorth i bobl ifanc fel a nodir yng nghorff yr adroddiad

4.   rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Cymunedau, Tai a Gwasanaethau Cwsmeriaid ar y cyd â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, Swyddog Adran 151 y Cyngor, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol i ymdrin â phob agwedd ar ail-gomisiynu gwasanaethau llety a chymorth i bobl ifanc fel y nodir yng nghorff yr adroddiad, hyd at a chan gynnwys dyfarnu contractau a phob mater cysylltiedig yn ymwneud â’r un peth.

5.   Nodi bod bwriad i gyflwyno mwy o adroddiadau i’r Cabinet i geisio awdurdodaeth i ddechrau’r prosesau caffael i’r gwasanaethau eraill gael eu comisiynu yn rhan o gamau 2, a'r gwasanaethau cam 3, pan a phryd y caiff y strategaethau caffael manwl eu datblygu.

 

Cofnodion:

Daeth y cynllun Gwario a Chyflenwi Lleol Cefnogi Pobl 2018/2019 i law ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran ail-gomisiynu’r gwasanaethau llety a chymorth. Ystyriodd y Cabinet hefyd ymagwedd ddiwygiedig ar wasanaethau cymorth yn ôl yr angen i bobl h?n ac ar ail-gomisiynu'r gwasanaethau llety a chymorth ar gyfer pobl ifanc.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.               cymeradwyo’r Cynllun Gwario a Chyflenwi Lleol Cefnogi Pobl fel y nodwyd yn Atodiad A i’r adroddiad

 

2.            nodi’r cynnydd a wnaed wrth ail-gomisiynu gwasanaethau cam un, a chytuno ar ymagwedd ddiwygiedig ar wasanaethau cymorth yn ôl yr angen i bobl h?n

 

3.            cytuno ar ymagwedd gynhwysfawr arfaethedig ar ail-gomisiynu gwasanaethau llety a chymorth ar gyfer pobl ifanc, fel y nodwyd yng nghorff yr adroddiad

 

4.            dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cymunedau, Tai a Gwasanaethau Cwsmeriaid mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau), Swyddog Adran 151 y Cyngor, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethu er mwyn ymdrin â holl agweddau ar ail-gomisiynu gwasanaethau llety a chymorth i bobl ifanc fel y nodwyd yng nghorff yr adroddiad, hyd at, ac yn cynnwys, dyfarnu contractau, a'r holl faterion ategol cysylltiedig.

 

5.            Nodi mai’r bwriad yw cyflwyno rhagor o adroddiadau i’r Cabinet er mwyn gofyn am awdurdod i ddechrau’r prosesau caffael er mwyn ail-gomisiynu’r gwasanaethau sy’n weddill fel rhan o wasanaethau camau 2 a 3 wrth a phan ddatblygir y strategaethau caffael manwl.

 

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.