Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. fod sefyllfa alldro posib ar sail naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol i gael ei nodi.
2. atgyfnerthu’r gofyniad i’r holl gyfarwyddiaethau sydd ar hyn o bryd yn cofnodi gorwario fel y nodir yn yr adroddiad hwn, i weithredu i leihau’r gorwariant a ragwelir.
Cofnodion:
Cafodd y Cabinet newyddion am sefyllfa monitro ariannol yr awdurdod ar sail naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol. Adroddwyd bod monitro refeniw ym mis naw’r Cyngor yn dangos sefyllfa gytbwys yn unol â sefyllfa mis chwech. Bu, fodd bynnag, newidiadau o fewn y sefyllfa gyffredinol gan gynnwys cynnydd yn y gorwariant ar gyllidebau cyfarwyddiaethau o ganlyniad i bwysau ychwanegol ar gyllidebau Gwasanaethau Plant o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol, cynnydd yn rhagamcan costau ariannu cyfalaf a llai o arian dros ben o gasglu’r Dreth Gyngor. Mae hynny oll wedi’i wrthbwyso gan gynnydd pellach mewn cronfeydd NDR ar eiddo Cyngor a chan rhagamcan y bydd modd arbed arian ar gyllidebau yswiriant yn y flwyddyn ariannol bresennol.
PENDERFYNWYD:
1. nodi sefyllfa alldro posib ar sail naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol.
2. atgyfnerthu’r gofyniad i’r holl gyfarwyddiaethau sydd ar hyn o bryd yn cofnodi gorwario fel y’i nodir yn yr adroddiad hwn, i weithredu i leihau’r gorwariant a ragwelir.
Dogfennau ategol: